Mae hunanfomiwr oedd ar gefn beic seiclo wedi lladd 11 o bobol yng ngogledd orllewin Pacistan.
Roedd wedi reidio at batrôl heddlu oedd yn gyrru drwy dref Dera Ismail Khan.
Yn ôl adroddiadau, bu farw tri heddwas ac wyth person cyffredin, gan gynnwys dau o blant. Fe gafodd tua 15 o bobol eraill eu hanafu hefyd.
Dihangfa
Mae’n debyg fod cannoedd o filoedd o bobol gyffredin wedi dianc i fyw i Dera Ismail Khan o ardal lwythol De Waziristan.
Roedden nhw wedi dianc rhag ymladd mawr yno yn 2009, rhwng lluoedd arfog Pacistan a’r Taliban.
Mae amcangyfrif fod tua thair miliwn o bobol wedi dianc o’u cynefinoedd ym Mhacistan er mwyn osgoi ymladd o’r fath – y gyfradd fwyaf yn y byd o bobol sydd wedi cael eu gorfodi i symud o fewn eu gwlad, yn ôl y Cenhedloedd Unedig.