Mae chwech o filwyr Nato a 12 o bobol gyffredin wedi cael eu lladd mewn ffrwydrad yn Afghanistan.

Digwyddodd yr ymosodiad yn ymyl confoi o gerbydau milwrol yn y brifddinas, Kabul, heddiw. Credir fod hunanfomiwr wedi ffrwydro car.

Roedd pump o’r milwyr Nato a fu farw yn Americanwyr, ac mae adroddiadau fod gwragedd a phlant ymysg y rhai eraill a gafodd eu lladd.

Mae’r Taliban wedi hawlio cyfrifoldeb.

Dyma’r ymosodiad mawr mwyaf yn Kabul ers mis Chwefror, pan gafodd 16 o bobol eu lladd yn dilyn ffrwydradau mewn dau westy yng nghanol y ddinas.

Roedd heddlu Afghanistan wedi addo gwell diogelwch yn dilyn yr ymosodiadau yna.