Mae cyn bencampwr y Gymanwlad, Jamie Arthur, wedi cael y cyfle i gymryd rhan yng nghystadleuaeth ddiweddaraf Prizefighter.
Roedd y Cymro wedi bwriadu ymddeol ar ôl colli ar bwyntiau i’r Gwyddel Martin Lindsay ym mis Mawrth.
Ond mae Arthur wedi penderfynu ceisio cipio coron Prizefigher a’r wobr o £32,000, pan gynhelir y gystadleuaeth ar 29 Mai yn York Hall, Llundain.
Mae Arthur yn cymryd lle’r bocsiwr diguro, Craig Lyon, sydd wedi tynnu allan, ac fe fydd rhaid iddo godi o bwysau plu i bwysau uwch bantam er mwyn cystadlu.
Bydd yna Gymro arall yn cystadlu am goron Prizfighter hefyd, gyda Ricky Owen o Abertawe yn un o’r wyth sy’n cymryd rhan.