Mae asgellwr y Crusaders, Gareth Raynor, wedi cael ei garcharu am 15 mis am werthu nwyddau ffyg ar-lein.

Fe sgoriodd Raynor gais i’r clwb Cymreig yn erbyn Hull KR dydd Sul ar ôl dychwelyd o anaf.

Ond plediodd cyn chwaraewr rhyngwladol Prydain Fawr yn euog i 13 cyhuddiad o ffugio ac un o dwyllo yn Llys y Goron Hull.

Clywodd y llys bod ei gynllun i werthu cetriseni inc ffug, busnes a oedd yn cael ei redeg o’i gartref yn Brough, werth £36,500.

Cafodd Raynor ei garcharu am naw mis am y drosedd yn ogystal â chwe mis ychwanegol am dorri amodau dedfryd wedi’i ohirio a gafodd ym mis Gorffennaf 2008 am ymosodiad.

Fe arwyddodd Gareth Raynor gyda’r Crusaders ar ddechrau’r tymor ar ôl cael ei ollwng gan Hull y tymor diwethaf.