Mae hyfforddwr Cymru, Warren Gatland wedi dweud y bydd Andy Powell yn cyfiawnhau ei le yn y garfan wrth wynebu De Affrica a Seland Newydd fis nesaf.
Cafodd chwaraewr rheng ôl y Gleision ei ollwng o garfan Cymru yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar ôl cael ei gyhuddo o yfed a gyrru bygi golff.
Ond mae hyfforddwr Cymru yn credu bod Powell yn haeddu ail gyfle.
“Mae Andy yn edifar am yr hyn a wnaeth o. Mae e’ am fod yn rhan o’r garfan ryngwladol a chael y cyfle i brofi ei fod yn gallu chwarae ar y lefel uchaf.
“Roedd e’ wedi’i anafu rhai wythnosau’n ‘nôl ond ers i ni ei gael e’n ymarfer gyda ni mae’n edrych yn dda.”
Mae presenoldeb Powell ‘nôl yn y garfan yn rhoi mwy o opsiynau i Gymru yn safle’r wythwr.
Capten Cymru, Ryan Jones yw’r unig chwaraewr arall sy’n chwarae’n gyson i’w ranbarth yn y safle hwnnw.
“Yn ddelfrydol rydach chi am gael chwaraewyr sy’n chwarae’n gyson, ond dyw hynny ddim bob tro’n bosib,” meddai Gatland.
“Rydw i’n aml wedi sôn am fy rhwystredigaeth nad yw rhai o’n prif chwaraewyr yn chwarae’n ddigon cyson i’w rhanbarthau. Ond dw i erioed wedi rhoi pwysau ar y rhanbarthau,” meddai hyfforddwr Cymru.