Mae Llywodraeth Gwlad Thai heddiw wedi gwrthod cynnig gan arweinwyr protestwyr y Crysau Coch i gynnal trafodaethau heddwch.
Cafodd y cynnig ei wrthod gan lefarydd ar ran y Prif Weinidog, Abhisit Vejjajiva, a ddywedodd y byddai’n rhaid i’r protestio yn y brifddinas, Bangkok ddod i ben yn gyntaf.
Roedd arweinwyr y Crysau Coch wedi dweud y bydden nhw’n derbyn cynnig gan arweinydd Senedd y wlad, i gadeirio’r trafodaethau rhwng y ddwy ochor.
37 wedi marw
Mae’r trais yn parhau yn Bangkok, ac mae o leiaf 37 o bobol wedi cael eu lladd yn ystod gwrthdaro rhwng protestwyr a’r lluoedd diogelwch dros y pum niwrnod diwethaf.
Roedd un o arweinwyr y Crysau Coch wedi dweud dros y penwythnos eu bod yn barod i “drafod ar unwaith” er mwyn “rhwystro marwolaethau pobl”.
“Fe all gofynion gwleidyddol aros,” meddai Nattawut Saikua, a alwodd ar y llywodraeth i dynnu’r milwyr yn ôl.
Mae’r Crysau Coch wedi meddiannu milltir sgwâr yn un o ardaloedd mwyaf ffasiynol y ddinas ers canol mis Mawrth, mewn ymgais i orfodi’r Prif Weinidog i ymddiswyddo ar unwaith, diddymu’r senedd a galw etholiadau newydd.