Mae’r Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi croesawu cynnig gan Brif Weinidog Prydain, David Cameron, i atal effeithiau’r toriadau cyllid yng Nghymru.

Yn eu cyfarfod cyntaf ddoe fe wnaeth David Cameron ategu’r cynnig i ddiogelu cyllideb Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer y flwyddyn ariannol 2010-11 rhag unrhyw doriadau ychwanegol.

Croesawodd Carwyn Jones “hyblygrwydd” y weinyddiaeth newydd yn San Steffan, er gwaetha’r ffaith i Brif Weinidog Cymru awgrymu yn y gorffennol na fyddai’n derbyn y cynnig.

Y bore ma, mae Carwyn Jones ac Ieuan Wyn Jones wedi bod yn trafod cyfarfod ddoe gyda newyddiadurwyr ym Mae Caerdydd.

“Bydd y Cabinet yn penderfynu a ydan ni’n cymryd y toriadau rheini eleni neu’r flwyddyn nesaf, ond mae’n ddefnyddiol iawn cael yr hyblygrwydd yna,” meddai Carwyn Jones.

“D’yn ni ddim yn croesawu toriadau ar unrhyw ffurf, ond mae’r hyblygrwydd yn ddefnyddiol.”

Mae Llywodraeth San Steffan eisiau cyflawni £6 biliwn o doriadau ac fe fyddai hynny’n golygu torri rhwng £220 miliwn a £250 miliwn o gyllideb Llywodraeth y Cynulliad, meddai Carwyn Jones.

“Fe fyddai’n amhosib torri cymaint â hynny mewn costau gweinyddol,” meddai.

“Mae yna anawsterau wrth wneud toriadau ar unrhyw adeg, ond mae yna anawsterau pellach wrth wneud toriadau yn ystod y flwyddyn ariannol.”