Mae gobaith y bydd y lludw o losgfynydd Eyjafjallajökull yn achosi llai o broblemau i deithwyr ar ôl cyflwyno mesurau newydd fydd yn caniatáu i awyrennau hedfan pan mae yna fwy o lwch yn yr awyr.

Ar ôl wythnosau o drafferthion bydd y Parthau Amser Cyfyngedig yn caniatáu i gwmnïau awyrennau hedfan fel arfer os nad oes cymylau llwch trwchus iawn.

Mae’r rheolau newydd wedi dyblu faint o lwch sy’n cael ei ystyried yn saff i hedfan drwyddo, meddai’r Awdurdod Hedfan Sifil.

Cyn cael hedfan yn y parthau llychlyd bydd rhaid i gwmnïau awyrennau eu cyflwyno nhw gyda phrawf bod yr awyrennau yn saff i’w hedfan drwy’r lludw – gan gynnwys cytundeb gyda gwneuthurwyr awyrennau a’r peiriannau.

Y cwmni awyrennau Flybe yw’r cyntaf i gwrdd â’r gofynion ac fe fyddan nhw’n cael hedfan drwy’r parthau o ganol dydd heddiw.

“Fel canlyniad i’r newidiadau hyn does dim cyfyngiadau ar yr awyr dros Brydain yn y dyfodol agos,” meddai’r cwmni rheoli’r awyr, Nats.

Dywedodd Flybe y byddai mabwysiadu’r rheolau newydd 48 awr yn gynt wedi golygu nad oedd angen canslo 359 awyren. Dim ond 21 awyren fyddai wedi eu hatal rhag hedfan.

“Mewn geiriau eraill dim ond 3% o’n rhaglen ni fyddai wedi ei effeithio,” meddai Prif Weithredwr y cwmni, Jim French.