Bydd Y Rhyl yn disgyn allan o Uwch Gynghrair Cymru ar ôl iddynt golli eu hapêl i ennill trwydded angenrheidiol i chwarae ym mhrif gynghrair pêl droed Cymru y tymor nesaf.

Roedd Y Rhyl yn bencampwyr y gynghrair flwyddyn ‘nôl ac fe wnaethon nhw orffen y tymor yn chweched eleni, ond bydd clwb Belle Vue yn cystadlu yn y Cymru Alliance y tymor nesaf.

“Mae’r Rhyl am gymryd cam ‘nôl o’r Uwch Gynghrair ar ôl i Gymdeithas Bêl Droed Cymru wrthod eu cais am drwydded,” meddai’r clwb mewn datganiad.

“Mae’r clwb wedi cael ail hanner anodd i’r tymor yn ariannol. Ond mae’r rheolwr, chwaraewyr a’r staff wedi bod yn wych trwy gydol y cyfnod yma.

“Roedden ni wedi gobeithio parhau ar lefel uchaf pêl droed Cymru wrth ddatrys y materion ariannol.

“Fe fyddwn ni nawr yn parhau i ail adeiladu cyllid y clwb a dychwelyd i’r Uwch Gynghrair cyn gynted ag sy’n bosib,” ychwanegodd Y Rhyl.

Bydd absenoldeb Y Rhyl yn ergyd fawr i’r Uwch Gynghrair y tymor nesaf gan maen nhw oedd y clwb gyda thorfeydd mwyaf y gynghrair.

Er gwaetha’r ffaith bod 33% yn llai o gefnogwyr wedi bod yn mynd i’r gemau na’r tymor blaenorol, roedd y Rhyl yn dal i ddenu 496 o gefnogwyr ar gyfartaledd i’w gemau eleni.

Clybiau eraill

Methodd Tref Llangefni a Lido Afan i ennill dyrchafiad o’r cynghreiriau is ar ôl i Gymdeithas Bêl Droed Cymru gwrthod eu hapêl hwy hefyd.

Ni chafodd Gap Cei Connah eu gwobrwyo gyda’r drwydded angenrheidiol chwaith, ac maen nhw’n disgyn allan o Uwch Gynghrair Cymru.

Fe benderfynodd Cymdeithas Bêl Droed Cymru i roi’r drwydded i Borthmadog – ond maen nhw hefyd yn disgyn allan o’r adran ar ôl gorffen tua gwaelod tabl yr Uwch Gynghrair y tymor hwn.

Mae enillwyr Cwpan Cymru, Bangor ynghyd ag Airbus UK, wedi sicrhau eu lle ar lefel uchaf pêl droed Cymru ar ôl ennill eu hapêl am drwydded.

Clybiau Uwch Gynghrair 2010/11

Fe fydd 12 clwb yn cystadlu yn Uwch Gynghrair Cymru’r tymor nesaf, ac ar ôl canlyniadau’r apeliadau, mae’n glir pwy fydd yn chwarae ar lefel uchaf pêl droed Cymru yn nhymor 2010/11.

Aberystwyth
Airbus UK
Y Bala
Bangor
Caerfyrddin
Castell-nedd
Y Drenewydd
Hwlffordd
Llanelli
Port Talbot
Prestatyn
Seintiau Newydd