Fe fydd chwyddiant yn disgyn ôl i tua 2% “o fewn blwyddyn” cyhoeddodd llywodraethwr Banc Lloegr, Mervyn King, heddiw.

Daeth i’r amlwg heddiw bod cost byw wedi taro uchafbwynt 17 mis wrth i chwyddiant dyfu i 3.7% ym mis Ebrill.

Cynnydd mewn cost dillad merched, tobacco a bwyd oedd yn bennaf gyfrifol am y chwyddiant, ac roedd o’n syndod i’r Ddinas a oedd wedi disgwyl chwyddiant o 3.5%.

Mewn llythyr agored at y Canghellor George Osborne, beiodd Mervyn King gostau olew uchel, punt wannach na’r arfer, a’r cynnydd i 17.5% mewn TAW yn mis Ionawr.

Mae’r chwyddiant bron a bod ddwywaith targed Banc Lloegr o 2% o fewn blwyddyn ond dywedodd Mervyn King ei fod o’n debygol o syrthio wrth i’r ffactorau dros dro ddod i ben.

Ond doedd dim sicrwydd ynglŷn a “chyflymder ac ehangder” y gwymp, a bydd y Banc yn gwylio chwyddiant fel barcud, meddai.