Mae mam wedi ymddangos o flaen llys heddiw wedi ei chyhuddo o lofruddio ei mab awtistig 11 oed.

Cafodd Yvonne Heaney, o Benarth, ei harestio ar ôl i’w mab Glen gael ei ganfod yn farw yn y Sky Plaza Hotel ger Maes Awyr Caerdydd dydd Sadwrn.

Ymddangosodd y fam 48 oed o flaen Llys y Goron Caerdydd yn gwisgo crys T du a rhwymau gwyn ar ei harddyrnau.

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod nhw wedi eu galw i’r gwesty ble’r oedd Glen a’i fam yn byw ddydd Sadwrn gan ffrindiau a theulu oedd yn pryderu am iechyd y bachgen.

Roedd arwydd ‘Do not disturb’ ar ddrws yr ystafell a pan wnaethon nhw agor y draws daethpwyd o hyd i’r fam a’r mab yn gorwedd ar y gwely.

Pythefnos cyn marwolaeth ei mab roedd hi wedi dweud wrth ffrind ei bod hi’n ystyried lladd ei hun, clywodd y llys.

Roedd hi wedi bod yn byw yn y gwesty ers mis Ebrill ar ôl gwahanu rhag ei gwr.

Cadwodd Nicholas Cooke, Cofiadur Caerdydd, Heaney yng Nghlinig Caswell ym Mhen y Bont ar Ogwr. Fe fydd hi’n ymddangos o flaen y llys eto ar 14 Mehefin.