Mae un o ASau meinciau ôl mwyaf blaenllaw’r Blaid Lafur, Jon Cruddas, wedi cyhoeddi na fydd o’n cymryd rhan yn y ras ar gyfer arweinyddiaeth y blaid.
Dywedodd Jon Cruddas nad oedd o’n meddu ar yr “rhinweddau” oedd eu hangen i fod yn arweinydd y Blaid Lafur ac o bosib y Prif Weinidog nesaf.
Ond dynododd yr AS dros Dagenham y byddai’n hoffi cymryd rôl flaenllaw o fewn y blaid ochr yn ochr gyda phwy bynnag sy’n cymryd drosodd gan Gordon Brown.
Dim ond David Miliband, ei frawd Ed Miliband, a’r ymgeisydd adain chwith John McDonnell sydd wedi cyhoeddi eu bod nhw’n sefyll hyd yma.
Mae rhai o enwau mwyaf eraill y blaid, gan gynnwys Harriet Harman, Jack Straw a Yvette Copper wedi dweud na fydden nhw’n sefyll. Mae Ed Balls a Andy Burnham yn dal i ystyried sefyll.
Roedd elfen adain chwith y blaid wedi gobeithio y byddai John Cruddas, oedd yn ddolen rhwng yr undebau a Tony Blair yn ystod ei gyfnod fel Prif Weinidog, yn sefyll.
Mae ganddo gefnogaeth gref yr undebau ac wedi gorffen yn drydydd yn ymgyrch arweinyddiaeth y blaid Lafur yn 2007.
Mewn datganiad neithiwr, dywedodd bod “nifer o bobl” wedi ei annog i sefyll a’i fod o wedi “ystyried y peth yn ofalus”.
“Rol yr arweinydd yw un o’r anrhydeddau mwyaf posib – ond dydi o ddim yn oferbeth i obeithio amdano. Mae o’n ddyletswydd i’w gyflawni.
“Rydw i’n benderfynol o chwarae rol flaenllaw wrth adnewyddu plaid sy’n cynrychioli’r gobaith gorau er mwyn pobol y wlad yma.”