Ifan Morgan Jones sy’n adolygu Llafnau gan Geraint Evans…

Nofel dditectif yw hon sy’n delio â phwnc digon cyfoes, o leiaf yn nghefn gwlad Ceredigion – sef y melinau gwynt sy’n cael ei codi dros bobman yng nghefn gwlad.

Y plot yn fyr yw bod ffermwr sy’n gobeithio adeiladu ffermydd gwynt ar ei dir yn cael ei ladd ar y ffordd adref o gyfarfod i gymeradwyo’r cynllun.

Mae’n syniad clyfar gan yr awdur oherwydd mae ganddo ddigon o elynion o’r dechrau. Dyw hanner y pentref ddim eisiau gweld y fferm wynt yn cael ei adeiladu felly mae’r darllenydd, a’r heddlu, yn amau nifer o gymeriadau o’r cychwyn cyntaf.

Er mai marwolaeth yw’n pwnc mae’n nofel ddigon ysgafn a hwyliog yn y bôn gyda’r pwyslias ar fod yn hawdd ac yn hwyl i’w ddarllen yn hytrach nac yn llenyddol.

Efallai mai dyma’r peth agosaf yn y Gymraeg tuag at ffilmiau blocbuster yr haf – dyw hi ddim am ennill gwobr Llyfr y Flwyddyn ond dyw hi ddim yn trio gwneud chwaith. Gwerthu fel slecs a difyrru’r darllenydd yw’r nôd.

Mae’n amlwg bod y plot cyfan wedi ei lunio allan o flaen llaw ac mae’r llinynau gwahanol yn plethu drwy’i gilydd yn feistrolgar.

Yr un gwendid efallai yw bod yna ormod o gymeriadau a dim digon o gig ar nifer ohonyn nhw, a gormod o ‘siarad siop’ am felinau gwynt ar adegau.

Mae yna’n sicr ormod o blismyn a dim digon i wahaniaethu rhwng un a’r llall, a mae rhai cymeriadau yn mynd a dod yn gyflym iawn ac yn cael eu anghofio’n fuan wedyn.

Mae’r ysgrifennu yn fecanyddol braidd ar adegau, yn enwedig yn ystod y golygfeydd caru – sy’n debycach i adroddiad heddlu o ddau berson yn cael rhyw na’r weithred go iawn.

Ond fel nofel dditectif mae’n gwneud ei swyddogaeth yn dda iawn – mae’n cadw’r darllenydd i ddyfalu tra’n ei fwydo gyda gwaith ymchwil trylwyr.

Bob tro ydach chi’n meddwl eich bod chi’n gwybod lle mae’r awdur yn mynd mae’n newid y canolbwynt ac mae darlun ehangach yn dod i’r golwg.

Mae’r darlun ehnagach hwnnw yn cynnig rywbeth tu hwnt i’r arferol – sylwebaeth ar y byd corfforaethol sinistr sydd tu ôl i’r frwydr am ynni gwyrdd.