Mae hunan fomiwr wedi lladd o leiaf tri o bobol ym mhrifddinas Afghanistan, Kabul, heddiw.
Yn ôl adroddiadau, fe gafodd y bobl eu lladd mewn ffrwydrad car i’r dwyrain o’r brifddinas. Cafodd un bws a phedwar cerbyd llai eu dinistrio’n llwyr.
Mae’r awdurdodau’n credu fod yr hunan fomiwr wedi ceisio targedu rhai o gerbydau’r Unol Daleithiau.
Mae’r ardal o amgylch y ffrwydrad hefyd yn cynnwys nifer o adeiladau llywodraeth Afghanistan.
Dywedodd Habibullah Mohammadi, swyddog Heddlu yn yr ardal, ei fod o wedi gweld tri chorff.
Roedd doctor wedi gweld 12 o bobl eraill wedi’u hanafu ac wedi’u cludo i’r ysbyty.