Ifan Morgan Jones sy’n gofyn a ydi o’n bryd diwygio’r system…

Mae wedi dod yn amlwg dros y dyddiau diwethaf bod Prydain yn crefu am ddiwygiad sylfaenol yn y ffordd ydan ni’n ethol ein harweinwyr ni.

Na, dw i ddim yn sôn am gynrychiolaeth gyfrannol, prif gonsesiwn y Ceidwadwyr cyn gallu ffurfio clymblaid gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Dw i’n siarad am arlywydd. Dyw’r cyfryngau, y pleidleiswyr na’r pleidiau wedi cyfaddef hynny dros y dyddiau diwethaf, ond mae’n amlwg mai dyna beth maen nhw ei eisiau mewn gwirionedd.

Daeth hynny i’r amlwg yn gyntaf pan awgrymodd Gordon Brown y gallai aros ymlaen fel Prif Weinidog yn 10 Stryd Downing tan yr hydref.

Roedd sylwebwyr gwleidyddol yn gandryll y gallai arweinydd oedd heb ei ethol yn y lle cyntaf aros ymlaen ar ôl colli etholiad.
Ac roedden nhw’n fwy blin byth pan awgrymodd o y byddai’n camu o’r neilltu cyn cynhadledd y Blaid Lafur i ganiatáu i arweinydd arall ‘heb ei ethol’ i gymryd ei le.

Fe wnaeth William Hague o’r Ceidwadwyr yn glir sut oedd ei blaid yn ei deimlo am hynny. “Rydyn ni eisiau sicrhau fod gan y wlad yma arweinydd wedi ei ethol,” meddai.

“Beth oedd pwynt dadleuon arweinydd y prif bleidiau os nad oedden ni’n dewis y person sy’n mynd i arwain y wlad?” gofynnodd y blogiwr Iain Dale echdoe.

Roedd dadleuon y prif bleidiau eu hunain hefyd yn arwydd bod gwleidyddiaeth yn newid yn y wlad yma. Mae pobol eisiau pleidleisio am arweinydd, ond nid yna’r sustem sydd gyda ni.

Dan y sustem sydd gyda ni, y Frenhines yw’r arweinydd. Pleidleisio dros gynrychiolydd yn San Steffan mae pobol yn ei wneud mewn Etholiad Cyffredinol, nid pleidleisio dros arweinydd plaid y person hwnnw.

Ac fe allai cynrychiolaeth gyfrannol arwain at aelod ‘heb ei ethol’ o’r drydedd neu bedwaredd plaid yn dod yn Brif Weinidog, pe bai’n gallu taflu clymblaid at ei gilydd.

Ers dechrau’r ganrif ddiwethaf mae’r Prif Weinidog wedi troi’n fwyfwy tebyg i arlywydd, a’r Brenin a’r Frenhines yn fwy o arweinydd mewn enw yn unig.

Efallai ei bod yn bryd diwygio’r system fel ein bod ni’n ethol un dyn penodol i swydd arweinydd – mae’n amlwg o’r sylwadau dros y dyddiau diwethaf mai dyna beth mae pawb ei eisiau yn y bôn.