Mae awyren oedd ar ei ffordd i Gatwick wedi chwalu yn Libya gan ladd o leiaf 104 o bobol.

Roedd disgwyl i’r awyren Afriqiyah Airways o Johannesburg lanio yn Tripoli yn Libya am 4.10am bore ma, cyn parhau i Lundain, ond fe wnaeth o chwalu ger y maes awyr.

Roedd o leiaf 93 o deithwyr ar yr Airbus 330, gan gynnwys pobol Brydain a De Affrica. Roedd y criw o 11 yn dod o Libya yn bennaf.

Does dim manylion eto ynglŷn â beth achosodd y ddamwain.