Rhiannon Michael sy’n gofyn a fydd Cheryl Gillan yn cadw ei lle fel Ysgrifennydd Cymru mewn clymblaid…
Pwy a wyr, erbyn diwedd y dydd efallai byddwn ni’n gwybod pwy fydd yn ffurfio llywodraeth yn San Steffan. Ar hyn o bryd, mae’r trafodaethau’n parhau ac mae’n bosib y bydden ni’n gweld llywodraeth enfys-aidd neu undod anghyfforddus rhwng y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Ceidwadwyr.
Beth fyddai pris yr undod hwnnw? Mae Michael Gove -fyddai yng nghabinet Cameron a gofal dros addysg pe bai’r Ceidwadwyr wedi ennill mwyafrif clir -wedi dweud y byddai’n fwy na hapus i ildio’i sedd i Ddemocrat Rhyddfrydol pe bai hynny’n sicrhau llywodraeth sefydlog.
Ond a yw’r un peth yn wir am Cheryl Gillan, sydd wedi bod yn llygadu swydd Peter Hain fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru ers peth amser? Cyn yr etholiad, awgrymodd Cameron y byddai hi’n cadw ei swydd. Ond gyda 8 AS Ceidwadol yng Nghymru bellach, pump yn fwy na chyn Mai 6 a’r fenyw hawliodd fwyd ci ar ei threuliau yn AS yn Amersham a Chesham, ymhell i ffwrdd o Gymru fach, a oes cyfiawnhad dros ei chadw yn ei swydd?
Oni fyddai clymblaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn gyfle euraid i gael gwared ar Cheryl heb godi gwrychyn? Er iddo fod yn absennol o lansiad maniffesto’i blaid, ac o unrhyw lun yn y maniffesto hwnnw, efallai bod cyfle i Roger Williams serennu ar y gorwel…