Mae aelodau blaenllaw plaid y Democratiaid Rhyddfrydol wedi awgrymu’r bore ‘ma na fyddai Plaid Cymru a’r SNP yn rhan o unrhyw glymblaid enfys rhyngddyn nhw a’r Blaid Lafur.
Roedd arweinydd yr SNP, Alex Salmond, wedi galw am “gynghrair blaengar” rhwng y Blaid Lafur, y Democratiaid Rhyddfrydol, yr SNP a Phlaid Cymru yn San Steffan.
Ond dywedodd un o aelodau mwyaf amlwg y Democratiaid Rhyddfrydol, Simon Hughes, wrth BBC Radio 5 bore ‘ma na fyddai’n disgwyl i’r pleidiau cenedlaetholgar fod yn rhan o’r glymblaid.
Ychwanegodd cyn arweinydd y blaid, yr Arglwydd Ashdown, yn ddiweddarach y byddai clymblaid leiafrifol rhwng y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Blaid Lafur yn “sefydlog.”
Dywedodd na fyddai “clymblaid enfys” yn gweithio.
Ychwanegodd y byddai’n amhosib i’r Ceidwadwyr ffurfio eu clymblaid eu hunain er mwyn gwrthwynebu clymblaid Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol.
Byddai hynny’n gofyn i’r SNP a Phlaid Cymru bleidleisio ar y cyd gyda’r Ceidwadwyr, rywbeth na fydden nhw “fyth” yn ei wneud, meddai.