Bydd traethau Cymru yn gobeithio am hwb twristiaeth ar ôl i 45 ohonyn nhw haeddu Baner Las Cadw Cymru’n Daclus eleni, y mwyaf erioed.
Mae’r traethau’n cael eu beirniadu yn ôl 30 o feini prawf sydd yn cynnwys cyrraedd y safon uchaf o ran ansawdd y dŵr, rheoli sbwriel yn llym, rheolaeth gaeth ar gŵn, diogelwch ymwelwyr a chadwraeth amgylcheddol gynaliadwy.
Dim ond 38 traeth yng Nghymru wnaeth haeddu’r Faner Las y llynedd, pedwar yn llai na’r flwyddyn flaenorol. Tywydd garw oedd yn cael y bai ar y pryd am olchi llygredd i mewn i’r môr.
Ymysg y rheini sydd wedi cael y Faner Las mae yna 13 traeth yn Sir Benfro.
Ugain mlynedd yn ôl, pan gyhoeddwyd enwau enillwyr gwobr y Faner Las, dim ond un traeth yng Nghymru oedd wedi medru cwrdd â’r safonau rhyngwladol llym.
“Mae’r arbenigwyr yn proffwydo y bydd mwy o bobl yn dewis treulio eu gwyliau ym Mhrydain oherwydd yr hinsawdd economaidd bresennol,” Dywedodd Lesley Jones, Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus.
“Gyda mwy nag erioed o draethau a marinas yng Nghymru’n cyrraedd statws y Faner Las rydym mewn sefyllfa i fedru cyhoeddi y byddai ymweliad â’r traethau’n brofiad o ansawdd uchel.
“Mae’r buddsoddi gan yr awdurdodau lleol a Dŵr Cymru yn ystod y ddegawd ddiwethaf erbyn hyn yn rhoi hyder i ni fedru datgan bod gennym, ar hyd y 750 o filltiroedd o arfordir yng Nghymru, ddewis eang o draethau a marinas sydd wedi cyrraedd y safon uchaf yn rhyngwladol.”
Y traethau
Bae Whitmore
Aberafan
Aberporth
Borth
Llangrannog
Cei Newydd – Traeth yr Harbwr
Tresaith
Traeth y Gogledd, Llandudno
Penmorfa, Llandudno
Llanfairfechan
Penmaenmawr
Bae Bracelet
Bae Caswell
Bae Langland
Porth Eynon
Abersoch
Abermaw
Cricieth – Traeth y Promenâd
Dinas Dinlle
Fairbourne
Pwllheli, Marian-y-De
Bae’r Rest
Bae Trecco
Llanrhath
Gogledd Broadhaven
Coppet Hall
Dale
Lydstep
Niwgwl
Trefdraeth
Traeth Poppit
Saundersfoot
Castell Dinbych-y-Pysgod
Gogledd Dinbych-y-Pysgod
De Dinbych-y-Pysgod
Tŷ Ddewi – Porth Mawr
Prestatyn
Cefn Sidan
Pentywyn
Benllech
Porth Swtan, Rhydwyn
Llanddona
Llanddwyn
Porth Dafarch
Trearddur