Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhoeddi y bydd newidiadau yn y Cynulliad ar ôl i’w prif chwip, Alun Cairns, gael ei ethol i Dŷ’r Cyffredin fel AS sedd Bro Morgannwg.

Cyhoeddwyd mai llefarydd y Ceidwadwyr ar faterion ariannol, Nick Ramsay, fydd yn cymryd ei le.

Bydd bwrdd rheoli’r blaid yn cyfarfod ddydd Gwener i benderfynu beth i’w wneud ynglŷn â sedd Alun Cairns yn y Cynulliad, sydd ar restr Rhanbarth De Orllewin Cymru.

Mae Alun Cairns wedi cynnig ymddiswyddo o’i sedd yn y Cynulliad.

Diolch a llongyfarch

Diolchodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Nick Bourne, i Alun Cairns am ei waith a’i longyfarch ar ei fuddugoliaeth.

“Ar nodyn personol” meddai, “fe fyddai’n colli ei gyngor a’i gymorth yn fawr fel prif chwip ac fel rheolwr busnes.”

Mae Alun Cairns yn un o wyth Aelod Seneddol Ceidwadol a gafodd eu hethol yng Nghymru yn yr etholiad cyffredinol ddydd Iau diwethaf.

Roedden nhw wedi llwyddo i amddiffyn tair sedd, ac wedi ennill pump.