Mae cadarnhad bellach fod o leiaf 44 o bobl wedi marw yn dilyn ffrwydradau mewn pwll glo yn Siberia.

Ond mae 46 o bobol yn dal i fod ar goll o dan y ddaear, a dyw’r achubwyr ddim yn gwybod a ydyn nhw’n fyw neu’n farw.

Mae Prif Weinidog Rwsia, Vladimir Putin, wedi ymweld â phwll glo Raspadskaya, lle digwyddodd un ffrwydrad ddydd Sadwrn, ac ail un ar y dydd Sul.

Cafodd rhai o’r gweithwyr achub, a oedd eisoes o dan y ddaear, eu lladd yn dilyn yr ail ffrwydrad.

Mae’r gwaith achub wedi ei atal dros dro, oherwydd y peryg y gall nwy methan arwain at drydydd ffrwydrad.