Mae hofrenyddion lluoedd arfog yr Unol Daleithiau wedi bod yn gollwng sachau o dywod er mwyn atal llif olew Gwlff Mexico rhag cyrraedd rhai o wlypdiroedd talaith Louisiana.

Maen nhw hefyd wedi ailgyfeirio dŵr o’r Afon Mississippi er mwyn ceisio gwthio’r olew yn ôl.

Er gwaethaf ymdrechion cwmni BP mae tua 210,000 galwyn o olew yn dal i ollwng o waelod y môr.

Credir fod tua phedwar miliwn galwyn wedi llifo allan hyd yn hyn, a gallai’r olew barhau i lifo am wythnosau i ddod.

Mae’r olew wedi bod yn gollwng o ffynnon ers 20 Ebrill, pan ffrwydrodd platfform olew Deepwater Horizon y cwmni BP, gan ladd 11 o weithwyr.

Ceisiodd BP osod cromen ddur dros y bibell sy’n gollwng, a sugno’r olew i wyneb y môr drwy bibell, ond ni lwyddon nhw i’w gosod hi yn ei lle.

Yn y cyfamser, mae’r cwmni wedi anfon llong danfor fechan i ryddhau cemegau ar ben yr olew er mwyn ceisio ei wasgaru yn gynt.

Mae BP yn cydweithredu ag Asiantaeth Amddiffyn yr Amgylchedd, sydd wedi cyfaddef nad ydyn nhw’n gwybod faint o effaith fydd y cemegau yn eu cael.