Fe fydd dau o athletwyr Cymru’n derbyn medalau aur heddiw – 13 o flynyddoedd ers iddyn nhw eu hennill.

Roedd y rhedwyr, Iwan Thomas a Jamie Baulch, yn aelodau o dîm rasio 4 x 400 gwledydd Prydain a ddaeth yn ail ym Mhencampwriaeth y Byd yn Athen yn 1997.

Yr Unol Daleithiau oedd yr enillwyr y diwrnod hwnnw ond fe ddaeth yn amlwg wedyn bod un o’r Americaniaid wedi bod yn cymryd cyffuriau.

Ar ôl ymgyrch hir gan gymdeithasau athletau yng ngwledydd Prydain, fe gafodd tîm yr Unol Daleithiau eu diarddel ac fe roddwyd y medalau aur i’r tîm Prydeinig.

Fe fydd Iwan Thomas a Jamie Baulch yn mynd i’r Senedd ym Mae Caerdydd i dderbyn eu medalau mewn seremoni arbennig.