Mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu’n gyflymach i atal glannau môr Cymru rhag erydu, yn ôl adroddiad newydd gan un o bwyllgorau’r Cynulliad.

Ar ôl mwy na thair blynedd o waith asesu a chynllunio, ychydig iawn o gynnydd sydd wedi bod, meddai’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

Maen nhw’n dweud bod angen i’r Llywodraeth ddangos mwy o arweiniad, i weithredu ar frys a chyfathrebu’n well gyda phobol sy’n cael eu heffeithio.

‘Rhwystredig’

Roedd y pwyllgor yn cefnogi rhai o’r cynlluniau – sy’n cynnwys amddiffynfeydd traddodiadol a syniadau mwy radical, fel ychwanegu tywod at draethau ac ildio tir i’r môr – ond yn “rhwystredig” gyda’r diffyg gweithredu.

“Er bod y Pwyllgor wedi’i galonogi gan rai o’r polisïau a’r opsiynau a glywodd er mwyn amddiffyn ein harfordir, roedd yn teimlo’n rhwystredig o glywed am y diffyg cynnydd a wnaed wrth weithredu’r opsiynau hynny,” meddai Cadeirydd y Pwyllgor, Jonathan Morgan.

“Mae yna sefydliadau ac awdurdodau sy’n disgwyl arweiniad gan Lywodraeth Cymru, ond mae amser yn brin, ac mae’r llanw yn prysur droi.”

Cost yn cynyddu

Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi rhybuddio y gallai’r gost o amddiffyn Cymru rhag erydu a llifogydd o’r môr yn cynyddu’n ddychrynllyd – i gymaint ag £1.4 biliwn y flwyddyn erbyn diwedd y ganrif.

Roedd rhaglen o’r enw Dulliau Newydd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y Cynulliad yn 2007 yn dweud bod angen adeiladau amddiffynfeydd i warchod adeiladau a strwythurau pwysig – fel ffyrdd a rheilffyrdd – ond fe fyddai’n rhaid ildio llefydd eraill i’r môr.

“All pobol sy’n byw ar wastadeddau Gwent ac arfordiroedd Ceredigion a Chlwyd ddim aros a gwylio’r dŵr yn llyncu eu cartrefi a’u busnesau. Maen arnyn nhw angen gwybod beth sy’n mynd i gael ei wneud i’w helpu.”