Bleddyn Bowen, myfyriwr yn adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth, sy’n edrych ar beth aeth o’i le i Blaid Cymru yng Ngheredigion…

Yn fuan iawn ar ôl i’r blychau pleidleisio gyrraedd y cyfri yn Aberaeron, roedd hi’n amlwg bod Mark Williams yn mynd i gadw ei sedd yng Ngheredigion. Ond hyn yn oed wedyn, roedd y fuddugoliaeth o dros 8,000 o bleidleisiau yn sioc i bawb.

Dyma oedd sedd targed Rhif 1 Plaid Cymru, ar ôl ei golli o gwta 200 o bleidleisiau yn 2005. Felly beth oedd yn gyfrifol am y canlyniad syfrdanol?

Mae’n amlwg o ystyried y canlyniadau ar draws Prydain mai Cleggmania oedd un o fflops fwyaf yr unfed ganrif ar hugain hyd yn hyn. Roedd e’n gwneud i Ddôm y Mileniwm Llundain edrych fel llwyddiant ysgubol.

Ond wrth i’r pentwr o bleidleisiau o blaid Mark Williams gynyddu, roedd tîm Plaid Cymru yn dal i feio dadleuon arweinwyr y prif bleidiau am lwyddiant y Democratiaid Rhyddfrydol. Yn y cyfri yn Aberaeron, roedden ni wedi ein hynysu o weddill Prydain a heb unrhyw ffordd o wybod sut roedd yr etholiad yn siapio.

Roedd pawb yno dan yr argraff bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi profi’r un llwyddiant ym mhobman arall, a hynny o ganlyniad i Cleggmania. Dywedodd Elin Jones, AC Plaid y rhanbarth, fod ganddi bellach hyd yn oed yn fwy o reswm i gwyno am y BBC wrth Ofcom.

Ond wrth i mi yrru yn ôl adref i Aberystwyth (gan wibio heibio i dyrfa o fyfyrwyr yn dathlu gydag arwyddion Mark Williams ar North Parade am 3am) a gwrando ar sut oedd y ras etholiadol yn datblygu y tu allan i Gymru, daeth i’r amlwg nad oedd Cleggmania wedi cael unrhyw effaith. Roedd y Democratiaid Rhyddfrydol wedi colli seddi.

Roedd Plaid hefyd wedi ennill brwydr agos yn erbyn y blaid Lafur yn Arfon, ac wedi cau’r bwlch yn sylweddol yn Llanelli.

‘Marmite’

Mae Penri James, ymgeisydd Plaid, wedi dweud ei fod e wedi rhedeg ymgyrch dda ac na fydden nhw wedi gallu gwneud mwy o ymdrech o ran canfasio.

Ond yr argraff sydd gen i yw bod Plaid Cymru wedi ceisio ymladd effaith Nick Clegg yn ormodol, gan anghofio’r ffaith bod Mark Williams yn AS eithaf hoffus.

Roedd aelodau pob plaid wedi dweud wrtha’i ar noson y cyfri’ fod gan Mark Williams record dda yn San Steffan, a bod cefnogaeth sylweddol i Mark Williams ei hun yng Ngheredigion.

Dywedodd un aelod o Blaid Cymru – “Mae Mark Williams yn haws i bobol i hoffi i raddau gwahanol, ble mae Penri James fel Marmite. Rydych chi’n ei gasáu neu’n ei garu.”

Ffactor arall wrth gwrs oedd pleidlais y myfyrwyr, yn bennaf ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn ôl y son roedd nifer y myfyrwyr wnaeth bleidleisio yng Ngheredigion dydd Iau yn uchel iawn.

Ac fe alla i fel myfyriwr yn Aberystwyth gadarnhau fod yna gefnogaeth gref i’r Dems Rhydd ymysg y myfyrwyr yn y fan honno.

Roedd pleidlais ffug yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol wedi cynhyrchu buddugoliaeth glir i Nick Clegg, gyda’r Torïaid yn ail.

Dw i’n credu bod pleidlais y myfyrwyr wedi ychwanegu yn sylweddol at fwyafrif Mark Williams – ond mae’n anodd dadlau y bydden nhw wedi newid y canlyniad.

Roedd Plaid wedi rhedeg ymgyrch llawer gwell yn 2010 nag yn 2005, ond nid oedd hi’n ddigon yn erbyn record Mark Williams yn San Steffan.

Mark Williams enillodd yng Ngheredigion, nid Nick Clegg. Y rheswm amlwg dros ei fwyafrif clir ydi bod pobol Ceredigion yn hapus gyda’i waith yn San Steffan.