Yr ardd orau i ymweld â hi yng Nghymru yw’r Ardd Fotaneg Genedlaethol, yn ôl arolwg barn gan ddarllenwyr cylchgrawn Gardeners’ World.
Pleidleisiodd y darllenwyr yn ogystal taw’r ardd, sydd â’i safle yn Sir Caerfyrddin, yw’r un fwyaf rhamantus a’r un sy’n cynnig y te hwyr gorau yng Nghymru.
Yn ôl pennaeth marchnata’r ardd, David Hardy, mae’r newyddion “yn wych.”
“Mae’r newyddion ein bod ni wedi cadw teitl yr ardd orau i ymweld â hi yn wych.” meddai, “ac mae’n anrheg arbennig ar gyfer dathlu ein pen-blwydd yn 10 oed.
“Hoffwn ddiolch i bawb a bleidleisiodd drosom ni a sicrhau mai ni sydd ar frig y rhestr.”