Ieuan Wyn Jones, arweinydd Plaid Cymru
Roedd nifer o wynebau digon digalon ymysg rhengoedd Plaid Cymru tua 4am bore ddoe. Roedd Llanelli wedi ei golli a seddi eraill yn y fantol. Y cyntaf i leisio’i farn oedd yr AC Rhodri Glyn Thomas, a awgrymodd nad oedd ymgyrch Plaid Cymru wedi bod yn ddigon da ac nad oedd unrhyw archwaeth am glymblaid arall â’r Blaid Lafur.
Wedi iddyn nhw gael cyfle i asesu’r etholiad yma yng nghyd destun y blynyddoedd blaenorol rydw i’n meddwl y bydd Plaid Cymru yn codi eu calonnau. Bydd eu methiant nhw a llwyddiant Llafur yn rhoi cyfle iddyn nhw gamu yn ôl ac ail-asesu beth y maen nhw’n gobeithio ei gyflawni dros y blynyddoedd nesaf. Eu problem pennaf nhw yn yr etholiad yma oedd eu bod nhw wedi bod yn reit lwyddiannus wrth gael beth oedden nhw ei eisiau allan o’r glymblaid gyda Llafur ers 2007 – mewn ffordd roedden nhw wedi cyrraedd diwedd eu rhestr siopa.
Un broblem arall i’r blaid oedd amseru’r refferendwm. Fel y mae methiant y refferendwm ar y system bleidleisio amgen wedi ei ddangos, roedd hi’n syniad da cynnal Refferendwm Cymru ar ddiwedd y senedd diwethaf. Yn wahanol i Nick Clegg, roedd Plaid Cymru wedi bod yn trafod a gosod y seiliau ar gyfer eu refferendwm llwyddiannus nhw am flynyddoedd cyn iddo ddigwydd, gan gynyddu’r gefnogaeth yn araf bach dros amser. Mae Alex Salmond wedi bod yn ddoeth iawn yn dweud y bydd yn cynnal refferendwm ar annibyniaeth yn 2014 yn hytrach nag yn syth bin.
Ond roedd y refferendwm mor fuan cyn yr etholiad nad oedd Plaid Cymru wedi cael cyfle i ailddiffinio eu hunain ar ôl y llwyddiant hwnnw. Beth oedd y cam mawr nesaf i’r Blaid ar ôl hynny? Ydi’r Blaid ei hun wedi eistedd i lawr a thrafod y peth eto?
Mae rhai wedi bod yn cymharu methiant Plaid Cymru â buddugoliaeth yr SNP, ond rydw i’n credu fod hynny’n annheg. Mae Senedd yr Alban wedi cael grymoedd deddfu ers dros ddeg mlynedd erbyn hyn. Mewn gwirionedd mae Cymru a Phlaid Cymru heddiw tua’r un lle ag oedd yr Alban a’r SNP nôl yn 2003, os nad 1999.
Os ydi refferendwm Alex Salmond yn 2014 yn llwyddiant, mae gan Blaid Cymru gyfle da o arwain Cymru i’r un cyfeiriad cyn diwedd y ddegawd. Heb yr Alban fe fyddai’n anodd iawn i’r Blaid Lafur sicrhau mwyafrif yn San Steffan, ac yn llawer haws i’r Ceidwadwyr. Gallai Plaid Cymru gymryd mantais o hynny a gwthio am lawer iawn rhagor o ddatganoli, neu hyd yn oed annibyniaeth.