Mae nosweithiau gwobrau cerddoriaeth y flwyddyn a fu ar y gorwel. Mae hefyd yn ddiwedd degawd felly dyma ddetholiad Owain Schiavone, Golygydd Y Selar o’r deg band a gafodd fwyaf o ddylanwad ar y sin gerddoriaeth gyfoes Gymraeg yn y dim-dimau…

Rhif 10: Texas Radio Band

Heb amheuaeth, dyma fand mwyaf rhwystredig y sin dros y ddegawd a fu! Ffurfiwyd TRB yn ardal Caerfyrddin tua diwedd y 1990au dan arweiniad yr enigma Mathew ‘Mini’ Williams, prif leisydd y grŵp. Ers hynny mae’r aelodaeth wedi gweld nifer o newidiadau, ond yr aelodau craidd ydy Mini, Rhydian ‘Squids’ Jones (bas) a Gruff Ifan (drymiau).

Ers dros ddegawd mae’r grŵp yn cael eu hystyried yn gyffredinol yn un o fandiau gorau’r sin, ond wedi methu â chreu eu marc yn ehangach o ganlyniad i’w diffyg cysondeb. Yn dilyn eu EP cyntaf, ‘Y Tywysoges’, ym 1999 dim ond dwy sengl a dwy albwm, ‘Baccta’ Crackin’ (2004) a ‘Gavin’ (2008) y maen nhw wedi’u rhyddhau. Er hynny, maen nhw’n crafu mewn i’r 10 uchaf.

Rhif 9: Radio Luxembourg / Race Horses

Dewis dadleuol o bosib, o ystyried nad ydyn nhw wedi rhyddhau albwm llawn eto (er bod y cyntaf yn cael ei rhyddhau ddiwedd Ionawr). Ond, does dim dadl ynglŷn â dawn cyfansoddi a photensial y grŵp a ffurfiwyd yn wreiddiol yn Aberystwyth nôl yn 2005. Cyn hynny, roedd dau o’r aelodau, Meilyr a Dylan yn y grŵp Mozz tra bod Alun Gaffey yn parhau i fod yn aelod o Pwsi Meri Mew. Mae’r drymiwr newydd, Gwion Llewelyn, hefyd wedi bod yn aelod o fand Elin Fflur a Papagini.

Dan yr enw Radio Luxembourg fe wnaethon nhw ryddhau tair sengl ac EP ‘Diwrnod efo’r Anifeiliaid’, ac maent eisoes wedi rhyddhau sengl a EP dan eu henw newydd. Mae’r rhain yn haeddu eu lle ar sail y ffaith nad ydyn nhw wedi cyrraedd eu llawn botensial eto, ond yn dal i sefyll allan.

Rhif 8: Mim Twm Llai

‘Prosiect ymylol’ Gai Toms, gitarydd Anweledig oedd Mim Twm Llai i ddechrau, ond erbyn canol y ddegawd roedd y grŵp o ardal Blaenau Ffestiniog yn perfformio a rhyddhau deunydd yn fwy cyson na Anweledig.

Mae Gai Toms yn un o gyfansoddwyr gorau Cymru, ac yn cael ei ystyried yn ‘ Meic Stevens’ newydd ers blynyddoedd. Er bod eu halbwm gyntaf, ‘O’r Sbensh’ (2002) yn boblogaidd, dyma’r wanaf o’r tair i Mim Twm Llai ei rhyddhau gyda ‘Straeon y Cymdogion’ (2005) yn wych, ac ‘Yr Eira Mawr’ (2006) bron cystal. Daeth Mim Twm Llai i ben yn swyddogol yn 2007 wrth i Gai benderfynu perfformio dan yr enw ‘Gai Toms’…pam lai ynte!

Rhif 7: Frizbee

Un arall o stabl lwyddiannus Blaenau. Band tri aelod oedd yn cael eu harwain gan Ywain Gwynedd, gynt o Yr Anhygoel. Ffurfiodd Frizbee yn 2004 gan ryddhau eu halbwm gyntaf, ‘Hirnos’ fwy neu lai yn syth ar eu label eu hunain, Recordiau Cosh.

Roedd eu roc ysgafn a bachog yn boblogaidd o’r cychwyn cyntaf ac roedden nhw’n headlinio gigs ymhen dim. Daeth EP ‘Lennonogiaeth’ i ddilyn yr albwm gyntaf, gydag albwm stiwdio ‘Pendraw’r Byd’, ac albwm ‘Yn Fyw o Maes-B’ yn 2006, ac yna’r albwm ‘Creaduriaid Nosol’ yn 2008.

Yr hyn sy’n nodweddiadol am Frizbee yw eu bod nhw wedi llwyddo i gynnal eu hunain fel band llawn amser am dros flwyddyn, gan berfformio mewn nifer anhygoel o gigs yn y cyfnod hwnnw. Nhw hefyd oedd yr adloniant mewn parti arbennig i groesawu Glyn Wise allan o dŷ’r ‘Brawd Mawr’ yn 2006!

Rhif 6: Kentucky AFC

Ar ddechrau’r ddegawd roedd Huw Owen ac Endaf Roberts yn ysgrifennu a pherfformio fel y Cacan Wŷ Experience, ond yn 2001 ymunodd Gethin Evans â’r parti, newidiwyd enw’r grŵp i Kentucky AFC a ganwyd band roc Cymraeg mwyaf llwyddiannus y ddegawd.

Roedd Kentucky yn fand byw egnïol, swnllyd a hynod o dynn, ond roedden nhw hefyd yn swnio’n dda ar CD. Dim ond un albwm a ryddhawyd ganddyn nhw, sef ‘Kentucky AFC’ yn 2004, ond am albwm! Yn wir, yn ei golofn i gylchgrawn Y Selar yn Rhagfyr 2009, datganodd Barry Chips mae ‘Kentucky AFC’ oedd albwm gorau’r ddegawd a fu.

Chwalodd y grŵp yn 2007, ond mae’r aelodau oll wedi profi llwyddiant gyda phrosiectau Mr Huw (Huw Owen), Endaf Presli (Endaf Roberts) a’r Genod Droog (Gethin Evans).

Rhif 5: Gwibdaith Hen Frân

Ffenomena diweddaraf y sin ac o bosib y band mwyaf poblogaidd ar hyn o bryd diolch i ganeuon bachog fel Coffi Du, Trôns dy Dad a Thwmpath Twrch Daear.

Wedi ffurfio yn 2006, daeth Gwibdaith i amlygrwydd gyntaf wrth gefnogi Mim Twm Llai mewn sawl noson ar daith theatrau trwy’r wlad. Chwyddodd poblogrwydd y grŵp yn dilyn rhyddhau eu halbwm ‘Cedors Hen Wrach’ yn 2007 gyda’r traciau uchod yn dod yn ffefrynnau ar y tonfeddi radio. Daeth ail albwm ‘Tafod dy Wraig’ yn 2008, ac mae’r trydydd ar y gorwel.

Gyda Ukelele, Gitâr acwstig a Bas Dwbl yn offerynnau craidd, byddech chi’n credu eu bod nhw’n fwy o fand tafarn ond mae melodïau, harmonïau a geiriau cofiadwy, ynghyd â phoblogrwydd aruthrol wedi sicrhau lle iddyn nhw ar frig rhestr perfformwyr gwyliau lu.

Rhif 4: Genod Droog

Ffurfiwyd y Genod Droog yn 2005 fel grŵp hip-hop/pop. Cafwyd aelodaeth amrywiol dros dair blynedd eu bodolaeth, ond yr aelodau craidd oedd Dylan ‘Dyl Mei’ Roberts, Gethin Evans, Carwyn Jones, Aneurin Karadog a Ed Holden.

Un albwm a ryddhawyd ganddynt, ‘Ni Oedd y Genod Droog’, a hynny wrth iddynt wahanu yn 2008, felly fel band byw y daethon nhw’n boblogaidd, ac fel band byw gwych y byddan nhw’n cael eu cofio. Roedden nhw hefyd yn nodweddiadol am eu gimics a gallu i greu awyrgylch parti wrth berfformio.

Yn ogystal ag ennill rhai o brif wobrau cerddorol Cymru, mae’n siŵr mae eu huchafbwynt oedd headlinio Sesiwn Fawr Dolgellau yn 2007. Maen nhw’n haeddu lle mor uchel am lwyddo i greu gymaint o argraff mewn cyfnod byr, a sefydlu Ed Holden fel rapiwr gorau Cymru.

Rhif 3: Super Furry Animals

Er mae canu’n Saesneg yn bennaf mae SFA, maen nhw’n haeddu lle mor uchel ar y rhestr am ryddhau un o’r albymau Cymraeg gorau erioed ar ffurf ‘Mwng’ yn 2000.

Trwy gynnal statws a phoblogrwydd rhyngwladol am dros 15 mlynedd, maen nhw hefyd wedi hyrwyddo’r sin Gymraeg yn aruthrol.

Recordiwyd Mwng am £6,000 dros gyfnod o bythefnos, ond dyma’r record iaith Gymraeg mwyaf llwyddiannus erioed, yn cyrraedd rhif 11 yn y siartiau Prydeinig. Cafodd y band hyd yn oed eu llongyfarch ar lwyddiant yr albwm yn San Steffan gan yr Aelodau Seneddol Elfyn Llwyd a Paul Flynn.


Rhif 2: Sibrydion

Ffurfiwyd Sibrydion yn 2004 gan y brodyr Osian a Meilyr Gwynedd o’r Waunfawr. Roedd y brodyr eisoes wedi bod yn aelodau o fand mwyaf poblogaidd Cymru ar droad y mileniwm, sef y Big Leaves.

Ymunodd Rhys Roberts, hefyd o Anweledig, a Dan ‘Fflos’ Lawrence, gynt o Albert Hoffman, yn fuan wedyn gan greu ‘siwpyr grŵp’ go iawn. Nid yw’n syndod felly fod eu halbwm gyntaf, JigCal, a rhyddhawyd yn 2005 yn un o albymau gorau’r ddegawd.

Ers pum mlynedd mae’r Sibrydion wedi sefydlu eu hunain fel band mwyaf safonol a chyson Cymru, boed wrth berfformio’n fyw, neu ar record. Mae eu hail albwm, ‘Simsalabim’ (2007) bron cystal â’r gyntaf ac mae albwm Saesneg gyntaf, ‘Campfire Classics’ (2009), wedi sicrhau sylw cynyddol y tu hwnt i Gymru fach.

Rhif 1: Anweledig

Does yna neb arall, ddim hyd yn oed Genod Droog, wedi llwyddo i greu’r fath awyrgylch wrth berfformio’n fyw dros y ddegawd ddiwethaf.

Ar ôl rhyddhau eu halbwm gyntaf, ‘Sobreros yn y Glaw’ (1998), roedden nhw’n dechrau hawlio eu lle fel un o brif fandiau Cymru. O droad y mileniwm ymlaen, fe wnaethon nhw ddechrau hawlio eu statws fel uchafbwynt gigs yr Eisteddfod Genedlaethol – sef uchafbwynt y sin yng Nghymru. Nhw oedd prif fand y nos Sadwrn olaf mewn gigs Cymdeithas yr Iaith a Maes B ar sawl achlysur – gan sicrhau awyrgylch anhygoel a gig llawn yn ddi-os.

Dim ond un albwm arall, ‘Gweld y Llun’(2001) a ryddhawyd ganddynt, ond mae eu dylanwad ar y sin Gymraeg, a sin gyfoethog ardal Blaenau Ffestiniog yn arbennig, yn ddi-ddadl.