Mae rhagor o glybiau’r Uwch Gynghrair wedi ymuno â’r ras i arwyddo chwaraewr ifanc Caerdydd, Adam Matthews, yn ystod y ffenest drosglwyddo.
Tottenham ac Aston Villa yw’r clybiau diweddaraf i ddangos diddordeb yn arwyddo’r amddiffynnwr addawol ar ôl anfon cynrychiolwyr i’w wylio’n chwarae yn erbyn Bristol City nos Fawrth.
Mae Man Utd ac Arsenal eisoes wedi cael eu cysylltu gyda Matthews a hynny am bris o rhwng £4m a £5m.
‘Dim cynnig’
Dywedodd rheolwr yr Adar Glas, Dave Jones, yn gynharach yn yr wythnos nad oedd y clwb wedi derbyn unrhyw gynnig swyddogol am Matthews.
Mae cadeirydd y clwb, Peter Ridsdale, wedi dweud bod Caerdydd yn awyddus i Matthews arwyddo cytundeb newydd i aros yn y brifddinas.
“R’yn ni wedi cynnal trafodaethau gydag Adam a’i gynrychiolwyr ers sawl wythnos ac rydym yn awyddus i sicrhau cytundeb newydd cyn gynted â phosib”, meddai’r cadeirydd.
Ond gyda’r problemau ariannol y mae’r clwb yn eu hwynebu, mae’n debygol y bydd Caerdydd yn gwerthu eto, fel y gwnaethon nhw gyda Chris Gunter ac Aaron Ramsey.
“R’yn ni’n ymwybodol o’r diddordeb yn Adam. Pe bai Man Utd neu Arsenal yn cynnig arian mawr, fe allai fod yn anodd i ni atal Adam rhag gadael,” ychwanegodd Ridsdale.