Ifan Morgan Jones sy’n dweud ei fod o’n iawn bod ffyrdd i’r gogledd yn cael mwy o sylw, am unwaith…

Yn gynharach yr wythnos hon fe ddaeth ymgais Ieuan Wyn Jones, y Gweinidog Trafnidiaeth, i wella’r cysylltiadau rhwng y de a’r gogledd dan y lach.

Roedd ymchwiliad naw mis yn codi amheuon am y pwyslais newydd ar gysylltu’r gogs a’r hwntws, gan awgrymu nad oedd yn gwneud synnwyr economaidd.

Yn ôl yr adroddiad gan Bwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru, “erbyn 2008 roedd bron i hanner y cynlluniau blaenoriaeth uchaf yng nghoridor y gogledd.

“Nid yw coridor y dwyrain – gorllewin wedi cael unrhyw gynlluniau blaenoriaeth uchaf yn ystod y cyfnod hwn,” meddai.

Roedden nhw’n amau nad oedd y pwyslais newydd ar gysylltu’r de a’r gogledd yn hytrach na’r gorllewin a’r dwyrain yn “ateb anghenion defnyddwyr”.

“Mae’r Pwyllgor yn cael trafferth i osgoi dod i’r casgliad bod y rhaglen waith ar brif ffyrdd yn cael ei datblygu heb ystyried anghenion defnyddwyr – bron fel pe bai’n nod ynddo’i hun,” meddai Angela Burns AC, Cadeirydd y Pwyllgor.

Anghenion economaidd

Nid Pwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw’r cyntaf i dynnu sylw at hyn.

Ym mis Mehefin roedd sefydliad busnes y CBI wedi beirniadu’r pwyslais newydd gan ddweud bod “yr angen i fuddsoddi mewn ffyrdd fydd yn dosbarthu budd economaidd yn bwysicach nag erioed”.

“Bydd ailgyfeirio adnoddau adeiladau ffyrdd cyfyngedig ar gysylltu cymunedau o fewn Cymru – yn hytrach nag gwella cysylltiadau hanfodol rhwng y gorllewin a’r dwyrain – yn cael effaith economaidd wael.”

Llwybrau defaid

Mae’r adroddiad a’r CBI yn methu’r pwynt braidd, sef bod y penderfyniad i gysylltu’r gogledd a’r de yn un gwleidyddol, yn hytrach nag un economaidd. Roedd addewid i wneud hynny yn rhan o ddogfen Cymru’n Un.

Drwy gwyno bod ffyrdd y gogledd a’r de yn cael mwy o sylw nag rhai’r gorllewin i’r dwyrain, mae’n anwybyddu’r ffaith mai cam bach i wneud yn iawn am esgeulustod degawdau yw hynny.

Mae ffyrdd y dwyrain a’r gorllewin yn gwneud yn dda iawn o’i gymharu â’r llwybrau defaid sy’n ymlwybro tua’r gogledd.

Mae pob ffordd o safon yng Nghymru dal i arwain allan ohoni. Dyw’r rhan fwyaf o bobol y gogledd ddim yn teimlo unrhyw berthynas glos gyda’u prifddinas a hynny oherwydd ei fod yn llawer haws cyrraedd Lerpwl ar hyd yr A55.

Na, dyw lon gwell rhwng Corris a Machynlleth ddim am arwain at unrhyw ddatblygiad economaidd mawr – yn y byr dymor
.
Ond mae’n gam bach tuag at sefydlu economi hunan gynhaliol yng Nghymru, yn hytrach nag un sy’n or-ddibynnol ar y sawl llinyn bogail sy’n ei gysylltu â Lloegr.

Ac fe fydd o hefyd yn annog pobol i ystyried Cymru fel un wlad yn hytrach nag dau wedi’u gwahanu gan ddifethwch nad oes modd ei groesi.

(Llun yr Hafan: Martin Bodman)