Mae prif hyfforddwr Sale, Kingsley Jones wedi dweud na fydd Dwayne Peel yn ail ymuno gyda’r Scarlets y tymor nesaf. Dywedodd wrth y BBC ei fod am gadw mewnwr Cymru gyda Sale ac y byddai’n synnu pe bai Peel yn dychwelyd i Lanelli.

Ond cyfaddefodd Jones fod gan Peel nifer o opsiynau i ystyried cyn y tymor nesaf.

Daw ymateb Kingsley Jones yn dilyn adroddiadau bod y Scarlets am ymdrechu i ychwanegu enwau mawr er mwyn rhoi hwb i’r garfan.

Mae prif hyfforddwr Sale hefyd wedi dweud ei fod yn ffyddiog y bydd y Cymro, Eifion Lewis Roberts hefyd yn aros gyda chlwb Uwch Gynghrair Lloegr.

Mae hyfforddwr Cymru, Warren Gatland eisoes wedi dweud ei fod yn awyddus i aelodau o garfan Cymru chwarae gyda’r rhanbarthau.

Gyda Chwpan y Byd yn 2011, fe allai hynny gael effaith ar ddewisiadau gyrfa rhai o chwaraewyr Cymru sy’n chwarae tu allan i’r wlad.