Mae “yr arglwydd yw fy mugail” a “car dy gymydog” ymysg llinellau mwyaf poblogaidd y Beibl. Ond beth yw’r adnodau lleiaf poblogaidd?

Mae’r wefan Gristnogol boblogaidd Ship of Fools wedi gofyn i’w darllenwyr bleidleisio ar eu cas adnodau yn y Beibl.

Dyma’r deg a ddaeth i’r brig…

Rhif 10: Caethweision

“Chwi weision, byddwch ddarostynedig i’ch meistri gyda phob parchedig ofn, nid yn unig i’r rhai da ac ystyriol ond hefyd i’r rhai gormesol.” (1 Pedr 2:18)

Rhif 9: Gwragedd

“Chwi wragedd, byddwch ddarostyngedig i’ch gwyr fel i’r Arglwydd.” (Effesiaid 5:22)

Rhif 8: Offrymu Plentyn

“Abraham,” meddai Duw wrtho, ac atebodd yntau “dyma fi”. Yna dywedodd, “Cymer dy fab, dy unig fab Isaac, sy’n annwyl gennyt, a dos i wlad Moreia, ac offryma ef yno yn boethoffrwm ar y mynydd a ddangosaf iti.” (Genesis 22:2)

Rhif 7: Offrymu Plentyn
Arall

“A gwnaeth Jefftha adduned i’r Arglwydd a dweud, “Os rhoi di’r Ammoniaid yn fy llaw, beth bynnag a ddaw allan o ddrws fy nhy i’m cyfarfod wrth imi ddychwelyd yn ddiogel oddi wrth yr Ammoniaid, bydd yn eiddo i’r arglwydd, ac offrymaf ef yn boethoffrwm.” … Pan gyrhaeddodd Jefftha ei gartref yn Mispa, daeth ei ferch allan i’w gyfarfod a thympanau a dawnsiau. Hi oedd ei unig blentyn; nid oedd ganddo fab na merch ar wahan iddi hi. A phan welodd ef hi, rhwygodd ei wisg, a dweud, “Gwae fi, fy merch! Yr wyt ti wedi fy nryllio’n llwyr, a thi yw achos fy nhrallod. Gwneuthum addewid i’r Arglwydd, ac ni allaf ei thorri.” (Barnwyr 11: 30-35)

Rhif 6: Dynion hoyw

“… a’r dynion yr un modd, y meant wedi gadael heibio gyfathrach naturiol a merch, gan losgi yn eu blys am ei gilydd, dynion yn cyflawni brytni ar ddynion, ac yn derbyn ynddynt eu hunain y tal anochel am eu camwedd.” (Rhufeiniaid 1:27)

Rhif 5: Treisio

“Ond ni fynna’r dynion wrando arno. Felly cydiodd y dyn yn ei ordderch a’i gwthio allan atynt, a buont yn ei threisio a’i cham-drin drwy’r nos, hyd y bore, ac yna gadael iddi fynd ar doriad y wawr.” (Barnwyr 19:25)

Rhif 4: Lladd plant

“O frech Babilon, a ddistrywir, gwyn ei fyd y sawl sy’n talu’n ol i ti am y cyfan a wnaethost i ni. Gwyn ei fyd y sawl sy’n cipio dy blant ac yn eu dryllio yn erbyn y graig.” (Salmau 137: 9)

Rhif 3: Hud a lledrith

“Paid a gadael i ddewines fyw.” (Exodus 22: 18)

Rhif 2: Hil-laddiad

“Dos, yn awr, a tharo’r Almaeciaid, a’u llwyr ddinistrio hwy a phopeth sydd ganddynt; paid a’u harbed, ond lladd pob dyn a dynes, pob plenty a baban, pob eidion a dafad, pob camel ac asyn.” (1 Samuel 15: 3)

Rhif 1: Rhywiaeth

“Ac nid wyf yn caniatau i wragedd hyfforddi, nac awdurdodi ar eu gwyr; eu lle hwy yw bod yn dawel.” (1 Timotheus 2: 12)