Mae hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, wedi cael ei annog i ddewis y prop o Rhuthun, Eifion Lewis-Roberts, yn rheng flaen Cymru.
Gydag Adam Jones allan o gemau prawf yr hydref, mae un o arwyr Camp Lawn Cymru yn 2005, Brent Cockbain, yn credu mai prop Sale – sy’n cael ei adnabod fel ‘The Fridge’ – yw’r ateb perffaith i bryderon Gatland.
“Fe fyddai staff hyfforddi Cymru yn orffwyll i beidio ystyried rhywun fel Eifion,” meddai Cockbain.
“Mae’n safle lle mae diffyg chwaraewyr sy’n chwarae ar y lefel uchaf gan Gymru, ac mae Eifion cystal ag unrhyw un.
“Mae Eifion yn cynnig rhywbeth gwahanol. Mae e’n gallu rhedeg gyda’r bêl yn ogystal â bod yn dda yn y sgrym.”
Anafiadau
Fe chwaraeodd Lewis-Roberts ei gêm gyntaf i Gymru yn erbyn Canada mis Tachwedd y llynedd.
Roedd e’ wedi cael ei ddewis yn y garfan ar gyfer y daith i Ogledd America dros yr haf, ond fe gafodd ei anafu ddiwrnod cyn i’r garfan adael.
Ond mae’r prop yn gobeithio cael ei gyfle unwaith eto i chwarae dros Gymru.
“Gydag Adam Jones allan am gyfnod, mae ‘na gyfle gyda Chymru, ond mae ‘na chwaraewyr ifanc gyda’r Gweilch hefyd,” meddai Eifion Lewis-Roberts.
“Y cyfan alla i wneud yw parhau i weithio’n galed i gael cyfle i gael fy nghynnwys yng ngharfan Cymru.”