Mae dyn 45 oed wedi colli ei law ar ôl damwain yn y môr yn Torquay, Dyfnaint dros y penwythnos.

Roedd y dyn ar gefn cylch rwber a oedd yn cael ei dynnu gan jet-ski pan ddigwyddodd y ddamwain.

Cafodd ei law ei chlymu yn y rhaff a oedd yn ei dynnu a’i gwahanu o weddill ei fraich.

Yn ôl llefarydd ar ran Heddlu Dyfnaint a Chernyw mae llaw’r dyn wedi ei cholli yn y môr.

Cafodd y dyn o Ivybridge yn Nyfnaint ei gludo i Ysbyty Ardal Torbay wedi’r digwyddiad oddeutu 3.30pm, Ddydd Sul.

Nid yw’r dyn wedi cael ei enwi eto.