Mae ymgyrchwyr hinsawdd – sy’n aros mewn gwersyll arbennig yn Llundain – wedi targedu pencadlys un o fanciau mawr Prydain heddiw.
Wedi eu gwisgo fel adeiladwyr, fe wnaethon nhw ddefnyddio ysgolion, cloeon a glud (superglue) i ffurfio blocád ym mhrif swyddfa yr RBS yng nghanol ardal y Ddinas.
Fe wnaethon nhw ddangos baneri yn cario negeseuon fel “RBS o dan reolaeth newydd” ac “Adnewyddu moesol yn digwydd”.
Dywedodd yr ymgyrchwyr eu bod nhw’n protestio yn erbyn buddsoddiadau’r banc yn ymwneud â phrosiectau tanwydd ffosil – yn enwedig ariannu y diwydiant glo a thynnu tywod tar yng Nghanada.
‘Eiddo i’r cyhoedd’
“Mae 70% o RBS yn eiddo i’r cyhoedd, ond mae defnyddio ein arian ni i gyllido newid hinsawdd yn gyfangwbl anghywir,” meddai James Clarke, un o’r protestwyr.
Fe wnaeth protestwraig arall feirniadu y taliadau mawr i benaethiaid y banciau hefyd.
“Mae’n arswydus bod y bancwyr yn cael miliynau o bunnau o arian trethdalwyr gan fethu dangos unrhyw barch at ddyfodol y blaned,” meddai Bryony Taylor, 20 oed.
Fe wnaeth aelodau o wersyll y protestwyr hefyd fynd ar do swyddfeydd cwmni cysylltiadau cyhoeddus Edelman yng nghanol Llundain.
Yn ôl y protestwyr, Edelman sydd yn hyrwyddo a hysbysebu’r cynlluniau am orsaf bwer wedi ei thanio gan lo yn ardal Kingsnorth yng Nghaint.