Mae diwrnod o gofio yn cael ei gynnal heddiw, gan gychwyn yng Ngwlad Pwyl, i nodi 70 mlynedd ers dechrau’r Ail Ryfel Byd.

Fe gychwynnodd y seremoni gyntaf yn Westerplatte ger Gdansk y bore ‘ma, lle wnaeth llong ryfel yr Almaen gychwyn saethu tuag at amddiffynfa Bwylaidd.

Fe wnaeth yr ymosodiadau gan yr Almaen ar Wlad Pwyl ar 1 Medi 1939 orfodi Prydain a Ffrainc i gyhoeddi rhyfel yn erbyn yr Almaen ddeuddydd yn ddiweddarach.

Mae disgwyl i arweinyddion 20 o wledydd, gan gynnwys yr Almaen a Rwsia, fod yn bresennol yn Gdansk wrth i’r seremonïau barhau.

Gwasanaeth

Fe fydd ‘na wasanaeth yn cael ei gynnal yn Eglwys Gadeiriol Sant Paul yn Llundain hefyd i gofio am y trigolion hynny gafodd eu gorfodi i adael dinasoedd Prydain yn ystod y rhyfel.

Fe gafodd 1.5 miliwn o bobl eu symud allan o’r dinasoedd dros bedwar diwrnod a gychwynnodd ar 1 Medi 1939.

Yn ystod y cyfnod rhwng 1939 a 1945 fe gafodd 3.5 miliwn o bobl, y mwyafrif yn blant, eu cludo i ardaloedd mwy diogel o Brydain.