Bydd dogfennau o ohebiaeth rhwng llywodraethau Prydain a’r Alban ynglŷn â rhyddhad y bomiwr Lockerbie yn cael eu cyhoeddi.
Roedd llywodraeth yr Alban eisoes wedi dweud eu bod am gyhoeddi’r wybodaeth berthnasol ynglŷn â rhyddhad Al Megrahi, ac mae llywodraeth San Steffan hefyd wedi penderfynu cyhoeddi’r llythyron hynny oedd yn trafod y rhyddhad gyda’r Alban.
Daw hyn fel ymdrech i brofi nad oedd unrhyw gytundeb dros olew wedi cael ei wneud rhwng Prydain a Libya mewn cyfnewid am anfon Abdelbaset Ali Mohmed Al Megrahi ‘nôl i Libya.
Mae Ysgrifennydd Cyfiawnder Prydain, Jack Straw, wedi gwadu’r honiadau bod y bomiwr wedi cael ei ryddhau er mwyn gwarchod buddiannau Prydain.
Mae’r Prif Weinidog, Gordon Brown, wedi gwadu bod Llywodraeth Prydain wedi chwarae rhan yn y rhyddhad.
Bydd rhai o’r dogfennau yn cynnwys nodiadau o gyfarfodydd rhwng Ysgrifennydd Cyfiawnder yr Alban, Kenny MacAskill, a’r bomiwr, Al Megrahi.