Mae miloedd o bobol nawr wedi gorfod ffoi o’u cartrefi wrth i’r tân gwyllt ledaenu trwy dde California.

Mae criwiau diffodd tân wedi bod yn ymladd y fflamau ers dyddiau, ond erbyn hyn mae wedi lledu dros 164 o filltiroedd sgwâr.

Mae 53 o gartrefi wedi eu dinistrio ac mae bygythiad i o leiaf 12,000 o rai eraill.

Eisoes mae dau ddiffoddwr wedi eu lladd gan y tân, wrth i’w cerbyd ddymchwel mewn coedwig serth.

Mae Llywodraethwr California, yr actor, Arnold Schwarzenegger, wedi galw ar bobol sy’n byw yn yr ardal i adael eu cartrefi.

Gyda’r tymheredd yn ne California o gwmpas 38C (100F), mae ‘na boeni y bydd y tân yn parhau i ledu.