Mae adroddiad wedi canfod bod un ymhob tair o ferched yn eu harddegau yn cael eu camdrin yn rhywiol gan eu cariadon.

Fe gafodd 1,300 o bobl ifanc rhwng 13 ac 17 oed eu holi mewn arolwg gan ymchwilwyr o Brifysgol Bryste mewn cydweithrediad â’r NSPCC a Chronfa’r Loteri Fawr.

Yn ôl yr arolwg roedd naw allan o ddeg o’r merched a holwyd wedi bod mewn perthynas rywiol.

O’r rhai hynny, roedd un allan o chwech yn teimlo bod eu partner wedi rhoi pwysau arnyn nhw i gael rhyw.

Ac, roedd un allan o 16 wedi dweud iddynt gael eu treisio.

Risg

Dywedodd yr NSPCC bod ‘na fwy o risg i’r merched hynny sydd mewn perthynas gyda bechgyn hŷn – gyda thri chwarter o’r merched hynny wedi profi trais.

Roedd merched oedd yn rhan o deulu lle’r oedden nhw wedi dioddef trais gan oedolyn o dan fwy o risg.

Roedd nifer o’r merched wedi dweud eu bod yn aros mewn perthynas oherwydd eu bod yn ofnus, yn teimlo’n euog neu’n poeni am golli eu cariadon.

Bechgyn

Mae’r arolwg hefyd yn dangos bod un allan o bump o fechgyn a holwyd wedi dioddef trais mewn perthynas.

Fe wnaeth un ymhob 17 nodi iddyn nhw gael eu gorfodi i gael rhyw.

Roedd bechgyn oedd â ffrindiau treisgar hefyd o dan fwy o risg o ddioddef trais neu fod yn dreisgar tuag at bartner.

‘Arswydus’

“Mae’n arswydus i ganfod bod gymaint o bobol ifanc yn ystyried trais neu gamdriniaeth mewn perthynas yn rhywbeth arferol”, meddai Diane Sutton o’r NSPCC.

“Mae’n rhaid i bobol ifanc ddysgu sut i barchu ei gilydd. Fe allai rhieni ac ysgolion chwarae rhan allweddol i ddysgu hwy am berthnasau cariadus a diogel.

“Mae hefyd angen addysgu pobol ifanc i wybod beth i’w wneud pe bai nhw’n dioddef o drais neu gamdriniaeth.”