Mae rheolau newydd ar fewnfudo yn creu problemau mawr yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, gyda 200 o swyddi meddygol heb eu llenwi, yn ôl un Aelod Cynulliad.

Mae Leanne Wood, AC Plaid Cymru yn rhanbarth Canol De Cymru yn dweud bod cynifer o swyddi yn wag yn Ymddiriedolaethau Iechyd Cymru oherwydd bod meddygon yn cael trafferthion i ddod i Gymru i weithio.

“Mae’n fater o bryder mawr i fi i weld cynifer o swyddi heb eu llenwi o fewn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru,” meddai Leanne Wood mewn cyfweliad gyda phapur y Western Mail.

“Rwy’n poeni y bydd hi’n anodd iawn cynnal gwasanaethau i’r dyfodol os na fydd y sefyllfa yma yn cael ei thaclo yn fuan iawn.

“Yn y tymor hir mae angen strategaeth i sicrhau nad yw’r gwasanaeth iechyd mor ddibynnol ar feddygon o dramor. Ond yn y tymor byr, mae’n rhaid gwneud yn siwr bod y rheolau yn cael eu newid i wneud hi’n haws i fwy o feddygon o dramor i ddod i Gymru i weithio.”

‘Eironig’

Yn ôl yr Aelod Cynulliad, mae ofnau rhai pobol bod gormod o fewnfudo i Brydain, a’r mesurau i leihau hynny, wedi creu sefyllfa beryglus i’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

“Mae’n eironig iawn bod yr holl alwadau i stopio mewnfudo wedi arwain at sefyllfa lle gallen ni yng Nghymru golli gwasanaethau gwerthfawr yn y gwasnaeth iechyd.

Mae Cymdeithas Feddygol Prydain, y BMA, hefyd wedi lleisio pryder am y sefyllfa.

“Mae BMA Cymru yn poeni’n fawr bod y Swyddfa Gartref yn plismona system sy’n rhwystro meddygon rhag dod i helpu’n gwasnaeth iechyd ni – pan mae eu mawr angen nhw,” meddai Dr Stefan Coghlan o’r gymdeithas.

“Mae nifer o feddygon o’r tu allan i’r Undeb Ewropeaidd bellach yn teimlo bod dim croeso iddyn nhw os yw’r Swyddfa Gartref yn rhoi gymaint o rwystrau yn eu ffordd nhw rhag dod i weithio yn ein ysbytai ni.”