Mae dyn sydd wedi ei gyhuddo o ddynladdiad wedi marwolaeth mewn priodas yn y Fflint, wedi mynd o flaen Llys Ynadon yr Wyddgrug heddiw.

Bu farw Michael Pennington, 26 oed o Ashton-under-Lyne, Manceinion, ar ôl cael anafiadau difrifol i’w ben wedi ffrwgwd yng Ngwesty Mountain Park yn y Fflint nos Sadwrn.

Fe gafodd Gavin Jackson, 44 oed o Stockport, Manceinion Uchaf, ei gyhuddo o ddynladdiad neithiwr.

Bydd Gavin Jackson yn cael ei gadw yn y ddalfa tan fydd yn mynd o flaen Llys y Goron yr Wyddgrug ar 11 Medi.

Mae disgwyl i ganlyniadau post mortem ar gorff Michael Pennington gael eu cyhoeddi heddiw.

Mae’r heddlu’n apelio am dystion ac yn galw ar unrhyw un â gwybodaeth eu ffonio ar 0845 607 1001.

(Llun: Michael Pennington)