Mae dau filwr wedi eu lladd tra eu bod nhw ar batrol yn Afghanistan heddiw, yn ôl y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Roedd y ddau yn aelodau o’r Black Watch o 3ydd Bataliwn Catrawd Frenhinol yr Alban.

Mae marwolaethau’r milwyr yn golygu bod 210 o aelodau lluoedd arfog Prydain wedi eu lladd yn Afghanistan ers 2001.

Mae teuluoedd y ddau wedi cael gwybod am eu marwolaethau.

Fe gawson nhw eu lladd tra eu bod nhw ar droed i’r gogledd o ardal Lashkar Gah yn ne Helmand.