Mae dros 150 o bobl wedi cymryd rhan ym Mhencampwriaeth Snorclo Cors y Byd yn Llanwrtyd heddiw.
Cafodd y digwyddiad ei sefydlu dros ugain mlynedd nôl gan Gorden Green er mwyn ceisio “rhoi enw’r dref ar y map”.
Ond heddiw oedd y tro cyntaf i Gorden Green, sy’n 74 oed, gymryd rhan yn y gystadleuaeth ei hun.
Nod y gystadleuaeth yw nofio ar hyd cors ddwy waith yn yr amser cyflymaf posib.
Roedd cystadleuwyr wedi teithio o bob rhan o Brydain i gystadlu, gyda dros 150 wedi cofrestru i gymryd rhan ‘mlaen llaw, a mwy yn ymuno heddiw.
Dywedodd Diana Green, gwraig y sefydlydd, bod y gystadleuaeth yn tyfu bob blwyddyn.
Mae’r arian sy’n cael ei godi gan y digwyddiad yn mynd at elusennau.