Dylan Iorwerth yn ystyried oblygiadau’r ‘fuddugoliaeth fawr’ i Nick Clegg…
Cwpwl o oriau gymerodd hi i’r Ceidwadwyr ddechrau ymosod ar y Democratiaid Rhyddfrydol – arwydd mai eu harweinydd nhw, Nick Clegg, oedd wedi ennill y ddadl deledu rhwng yr arweinwyr.
Cymharol dawel oedd y Blaid Lafur a’u Svengali etholiadol, Peter Mandelson, hyd yn oed yn canmol ychydig ar yr ‘arwr’ newydd.
Roedd yna reswm da tros agweddau gwahanol y ddwy blaid.
Hyd yn oed os na fydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn dod yn agos at fod yn brif blaid, hyd yn oed os na fyddan nhw’n ennill llawer rhagor o seddi, fe allan nhw chwalu gobeithion y Ceidwadwyr a David Cameron.
Mewn ambell ran o dde Lloegr, mae yna gystadlaethau agos rhwng y ddwy blaid – yn y math o seddi y mae’n rhaid i’r Ceidwadwyr eu cipio er mwyn ennill grym.
Mewn seddi ymylol mewn ardaloedd eraill, fe allai cynnydd ym mhleidlais y Democratiaid Rhyddfrydol fod yn ddigon i atal y Ceidwadwyr rhag curo Llafur.
Siwtio Llafur
Ar hyn o bryd, felly, mae’n siwtio Llafur bod y Democratiaid yn gwneud yn eitha’ ac roedd hi’n amlwg neithiwr hefyd bod Gordon Brown a Llafur yn ffansïo’u gobeithion o daro bargen gyda Clegg wedi’r etholiad.
Os bydd y Democratiaid yn dal i ennill tir, mi fydd Llafur hefyd yn newid eu tiwn. O dan Blair, roedd hi’n amlwg bod y bleidlais dactegol wrth-Dorïaidd wedi bod yn mynd i Lafur.
Os bydd pleidleiswyr amhendant yn dechrau cymryd y Democratiaid Rhyddfrydol o ddifri, fe allai hynny newid ac wedyn mi fyddai Llafur hefyd o dan fygythiad o golli seddi i’r Dems neu o adael y Ceidwadwyr i mewn.
Er nad oedd Cymru’n rhan o’r ddadl neithiwr, mi allai llwyddiant Clegg gael effaith yma hefyd – mi allai fod yn ddigon i achub eu crwyn yn nhair sedd y Canolbarth, lle mae eu mwyafrifoedd yn gymharol fregus.
Mynd amdano
Felly, mi fydd y Ceidwadwyr – a’u cefnogwyr yn Fleet Street – yn mynd am Clegg gydag arddeliad tros yr wythnos nesa’. Yn enwedig tros ei agwedd at Ewrop a mewnfudwyr. Mi all ddisgwyl y bydd y pleidiau eraill a’r papurau’n chwilio’i bac personol hefyd.
Os bydd yn parhau’n gry’ erbyn nos Iau nesa’, gallwch ddisgwyl y bydd Cameron yn troi’r tu min tuag ato a Brown yn ceisio bod yn ffrind.
Os bydd yn parhau i ennill tir wedyn, mi gaiff ei daro o’r ddwy ochr.