Mae’r Swyddfa Dramor yn ymchwilio i adroddiadau bod nifer o ddinasyddion Prydeinig wedi’u lladd mewn ffrwydrad yn Afghanistan ddoe.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad gan hunan fomiwr yn ne dinas Kandahar – ardal lle mae llawer o fusnesau tramor.

Eisoes, mae llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor wedi cadarnhau heddiw fod un dyn o Brydain wedi dioddef mân anafiadau ar ôl y ffrwydrad.

‘Saith’

Yn ôl adroddiadau lleol, mae hyd at saith o bobol wedi’u lladd a rhai ohonyn nhw’n dod o wledydd Prydain.

“Does gyda ni ddim gwybodaeth i gadarnhau dim ar hyn o bryd. Mae ymchwiliadau’n cael eu cynnal,” meddai llefarydd o’r Swyddfa Dramor.

Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cadarnhau eisoes nad oes milwyr Prydeinig wedi’u dal yn y ffrwydrad.

Y ffrwydrad

Fe ddigwyddodd y ffrwydrad neithiwr, oriau ar ôl bom car y tu allan i westy yn y ddinas. Fe gafodd wyth o bobol eu hanafu bryd hynny.

Mae ffynhonnell yn agos ar Arlywydd Afghanistan wedi dweud wrth newyddion Associated Press fod tri thramorwr a thri milwr lleol wedi’u lladd yn y ffrwydrad.

Fe ddywedodd Ahmed Wali Karzai, hanner brawd Arlywydd Hamid Karzai sy’n ffigwr dylanwadol yn Kandahar, bod sawl person wedi’u hanafu yn y ffrwydrad a rhai wedi’u lladd.
Roedd effaith y bom i’w deimlo 2.5 milltir i ffwrdd gyda ffenestri’n cael eu chwythu ar draws y ddinas.

Llun: Adeiladau yn ardal fusnes Kandahar (Ghaim CCA2.0)