Carwyn Jones
Roedd rywbeth yn chwarae ar fy meddwl i wrth i Carwyn Jones gael ei urddo yn Brif Weinidog Cymru ar 9 Rhagfyr 2009. Ac mae yn dal i chwarae ar fy meddwl i heddiw – mae Carwyn Jones yn ddyn ifanc. Dim ond 44 oed ydi o. Roedd Rhodri Morgan yn 61 pan gafodd ei ethol, ac wedi ymddeol heddiw yn 72 oed.
Mae’r Blaid Lafur wedi ennill y siâr fwyaf o’r pleidleisiau yng Nghymru bob blwyddyn er 1922. O ystyried fod ganddyn nhw afael cadarn iawn ar wleidyddiaeth Cymru – pan mae pethau wir yn ddu arnyn nhw, maen nhw’n gorfod clymbleidio – fe allai Carwyn Jones fod yn Brif Weinidog hyd nes bod yntau yn penderfynu ymddeol.
Fel y dywedodd Rhodri Morgan wrth adael y Senedd heddiw: “Pan mae’r Prif Weinidog cyfoes, Carwyn Jones, yn camu i lawr – mewn 25 mlynedd, neu beth bynnag – fe fyddwn i’n awgrymu ei fod yn treulio amser ar y meinciau ôl.”
25 mlynedd! Ai Carwyn Jones fydd Pab Ioan Pawl II Cymru? Yntau ydi 25 mlynedd yn amser hir iawn mewn gwleidyddiaeth, ac y bydd y Blaid Lafur yn siŵr o golli eu gafael ar rym cyn hynny?