Mae cyn Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, wedi dweud na fydd yn rhoi ei draed lan er ei fod yn ymddeol o’i swydd yn Aelod Cynulliad heddiw.
Gorffennodd ‘Tad Datganoli Cymru’ ei yrfa drwy gario’r prysgyll aur seremonïol allan o adeilad y Senedd heddiw.
Er bod ei yrfa wleidyddol bellach ar ben, dywedodd Rhodri Morgan y byddai’n helpu ei wraig Julie Morgan wrth iddi geisio cipio sedd Gogledd Caerdydd o’r Ceidwadwyr.
“Mae hi’n sefyll mewn sedd agos iawn yng Ngogledd Caerdydd. Mae’n hanfodol ein bod ni’n ei hennill hi er mwyn cael mwyafrif yn yr etholiad nesaf,” meddai.
Piano
Serch hynny dywedodd Rhodri Morgan, sy’n 71 oed, ei fod yn bwriadu gwneud y gorau o’i ymddeoliad, drwy ganolbwyntio ar ei hobïau – garddio a cherfio pren.
Ychwanegodd ei fod yn bwriadu dysgu i chwarae’r piano o’r diwedd.
Dywedodd cyn Aelod Cynulliad Gorllewin Caerdydd ei fod yn hyderus y byddai’n arfer â’r holl amser rhydd ychwanegol oedd o’i flaen.
“Dydw i ddim yn ddyn sy’n edrych yn ôl,” meddai. “Rydw i wedi penderfynu. Fe sefais i lawr yn araf bach fel nad oedden i’n gweld eisiau’r gwaith.
“Pan mae’r Prif Weinidog cyfoes, Carwyn Jones, yn camu i lawr – mewn 25 mlynedd, neu beth bynnag – fe fyddwn i’n awgrymu ei fod yn treulio amser ar y meinciau ôl.”
Patagonia
Dywedodd mai uchafbwynt ei gyfnod yn Brif Weinidog oedd cael dianc o Gymru i Batagonia.
“Roddwn i’n sefyll ar draeth yn gwylio’r morfilod mawr yma’n dod i fyny o’r Antartig,” meddai.
“Wales yn cwrdd â’r whales! Drwy gyd-ddigwyddiad dyna le y glaniodd y Cymry ym Mhatagonia yn 1865.”
Gadael – am byth
Mae o leiaf 14 o Aelodau Cynulliad eraill wedi gadael y Senedd am byth heddiw. Dyma’r rhestr yn llawn:
Llafur
Karen Sinclair (De Clwyd)
Andrew Davies (Gorllewin Abertawe)
Val Lloyd (Dwyrain Abertawe)
Brian Gibbons (Aberafan)
Jane Davidson (Pontypridd)
Rhodri Morgan (Gorllewin Caerdydd)
Lorraine Barrett (De Caerdydd a Phenarth)
Irene James (Islwyn)
Plaid
Gareth Jones (Aberconwy)
Janet Ryder (Gogledd Cymru)
Y Ceidwadwyr
Alun Cairns (South Wales West) – wedi ei ethol yn Aelod Seneddol
Democratiaid Rhyddfrydol
Jenny Randerson (Canol Caerdydd)
Mike German (De Ddwyrain Cymru) – wedi mynd i Dŷ’r Arglwyddi
Annibynnol
Mick Bates (Sir Drefaldwyn) – wedi ei ethol yn Dem Rhydd
Trish Law (Blaenau Gwent)