Cyffro! Rydw i newydd weld yr arwydd etholiadol cyntaf yng Ngheredigion. Arwydd yn cefnogi’r Democratiaid Rhyddfrydol, ar y ffordd allan o Lanbedr pont Steffan yng Ngheredigion. Mae ganddyn nhw o leiaf un cefnogwr ar ôl, felly.
Roedd Ceredigion yn goedwig o arwyddion yn cefnogi’r Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru yn ystod ymgyrch yr Etholiad Cyffredinol y llynedd. Efallai mai’r un deryn melyn diymgeledd yn pipan dros wrych o gae mwdlyd fydd yn agor y llifddorau eleni.
Peth arall wnaeth fy nghyffroi heddiw oedd cyrraedd adref a gweld dau gerdyn pleidleisio yn disgwyl amdana’i wrth droed y drws. Mae Etholiad y Cynulliad yn cael blaenoriaeth dros y refferendwm ar y system bleidleisio ar hwnnw.
Er gwaetha’r cyffro rhaid cyfaddef mai dim ond dau bosibilrwydd tebygol sydd ar gyfer Etholiadau’r Cynulliad. Y cyntaf yw nad yw’r Blaid Lafur yn sicrhau digon o seddi i ennill mwyafrif, ac felly yn gorfod mynd yn ôl i glymblaid â Phlaid Cymru. Yr ail yw bod y Blaid Lafur yn sicrhau digon o seddi i ennill mwyafrif, ond yn penderfynu mynd yn ôl i glymblaid â Phlaid Cymru beth bynnag.
Ond mae penderfynu fod y canlyniad yn anochel yn sugno’r holl hwyl allan o’r etholiad braidd, felly mae’n werth ystyried yr opsiynau eraill sydd ddim yn mynd i ddigwydd, hefyd.
Y cyntaf ydi bod y Blaid Lafur yn penderfynu llywodraethu ar ei phen ei hun. Os nad ydyn nhw’n ennill mwyafrif anferth fe fyddai hynny’n dipyn o dasg, oherwydd fe fyddai’n rhaid sicrhau bod pob Aelod Cynulliad yn y Senedd ar gyfer pob pleidlais. Hyd yn oed oes ydyn nhw’n sâl neu efo rywbeth hynod o bwysig i’w wneud yn rywle arall.
Fe allai Plaid Cymru benderfynu nad ydyn nhw eisiau mynd i’r gwely â’r Blaid Lafur, wrth gwrs. Fe allen nhw benderfynu nad oes gan y Blaid Lafur ddim byd i’w gynnig iddyn nhw gan nad ydyn nhw mewn grym yn San Steffan. Fe allai Plaid Cymru benderfynu eu bod nhw wedi cael popeth oedden nhw ei eisiau am y tro drwy Gytundeb Cymru’n Un, a’i fod yn rhy gynnar i wthio am ragor o ddatganoli, ac mae eu lle nhw yng ngwleidyddiaeth Cymru fyddai bod yn brif wrthblaid a chael y cyfle i ail ystyried eu blaenoriaethau nesaf. Fe allen nhw benderfynu fod hon yn etholiad Prydeinig, ac mai unig ddiddordeb y Blaid Lafur dros y pedair mlynedd nesaf fydd sgorio pwyntiau yn erbyn y Llywodraeth yn San Steffan, ac felly’n peth gorau i’w wneud yw camu o’r neilltu a gadael i’r pleidiau mawr Llundeinig rwygo lympiau mawr o’i gilydd a disgwyl nes bod y dwst yn setlo.
Posibilrwydd annhebygol arall ydi bod Llafur yn mynd i’r gwely â’r Democratiaid Rhyddfrydol. Mae sïon eu bod nhw’n ystyried gwneud hyn wedi bod yn swyrlio o amgylch y Bae ers sbel. Mae yna adain o’r Blaid Lafur sydd wir ddim yn hoffi Plaid Cymru, ond dw i’n meddwl mai ASau ydi’r rhan fwyaf ohonyn nhw (wedi eu harwain gan Peter Hain), a bod Carwyn Jones a gweddill ei AC yn eitha’ hoffi Plaid Cymru (wele’r brwydro geiriol dros effeithlonrwydd Ieuan Wyn Jones).
Dw i ddim yn meddwl fod y Blaid Lafur wir yn ystyried mynd i glymblaid â’r Democratiaid Rhyddfrydol. Efallai eu bod nhw’n awyddus i awgrymu hynny er mwyn dangos i Blaid Cymru nad ydyn nhw’n ddewis awtomatig ac felly na ddylen nhw ofyn am ormod os ydyn nhw eisiau mynd i glymblaid eto. Ond mae’r Democratiaid Rhyddfrydol mewn grym yn San Steffan ac fe fyddai’n llawer anoddach i’r Blaid Lafur ymosod ar y ConDems ar un llaw tra’n chwtsio lan â’r Dems ym Mae Caerdydd. Yr unig gymhelliad dros wneud hynny dybiwn i fyddai drysu’r Dems Rhydd yn llwyr a cheisio eu rhwygo nhw i lawr y canol.
Beth bynnag, does dim sicrwydd y bydd gan y Democratiaid Rhyddfrydol ddigon o seddi i ffurfio clymblaid â unrhyw un ar ôl yr etholiad.
Y trydydd opsiwn annhebygol arall yw bod Plaid Cymru yn mynd i glymblaid â’r Ceidwadwyr. Mae’r Ceidwadwyr yn awyddus i hyrwyddo’r syniad hwnnw er mwyn rhoi’r argraff y gallen nhw feddu ar rywfaint o rym ar ôl 5 Mai. Mae Plaid yn awyddus i roi’r argraff yma am yr un rheswm y mae’r Blaid Lafur yn awyddus i awgrymu’r gallen nhw fynd i glymblaid â’r Dems Rhydd – playing hard to get, ys dywed y Sais.
Ond mae Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr yn ddwy blaid wahanol iawn, ac fe fyddai’n anodd ffurfio rhestr siopa o bolisïau y maen nhw’n cytuno arni. Mae gan Blaid Cymru llawer mwy yn gyffredin â’r Blaid Lafur. Yn ogystal â hynny, mae’n annhebygol y bydd Plaid a’r Ceidwadwyr yn ennill digon o seddi i gael mwyafrif, hyd yn oed o gynnwys y Dems Rhydd.
Byddai’r rhaid i Blaid Cymru ystyried sut argraff y byddai cydweithio â’r Ceidwadwyr yn ei roi i weddill Cymru hefyd. Mae’r polau piniwn yn awgrymu bod pleidleiswyr Cymru yn barod i roi trwyn gwaed i’r Ceidwadwyr ar 5 Mai, tra bod y Blaid Lafur yn llawr mwy poblogaidd nag oedden nhw yn 2007. A fyddai’n gwneud synnwyr i Blaid Cymru ymochri â phlaid sydd am fynd yn fwy a rhagor amhoblogaidd yng Nghymru wrth i’r toriadau frathu dros y misoedd a blynyddoedd nesaf?
Clymblaid rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru fydd hi, felly. Os ydw i’n anghywir fe wna i fwyta fy nghardiau pleidleisio…