Shaun Edwards yn trafod â Warren Gatland
Mae hyfforddwr amddiffyn Cymru, Shaun Edwards, wedi gwadu iddo daro Fergus Connolly gyda’i ben yn ystod ffrae wedi’r gêm yn erbyn Iwerddon yn y Chwe Gwlad.

Fe gafodd Edwards a Connolly, sy’n wyddonydd chwaraeon gydag Undeb Rygbi Cymru, ddirwy o £500 yr un a’u gwahardd o’u dyletswyddau am saith diwrnod yn dilyn y ffrae yng ngwesty’r tîm.

Roedd yna adroddiadau bod y ddau wedi gwrthdaro ar ôl i Edwards addasu cân werin Wyddelig, gan ychwanegu ambell i linell newydd.

“Roedd Fergus wedi camddeall cân oedd yn ychydig o sbort,” meddai. “Fe siaradodd gyda mi ar ôl hynny ac nid oedd yn hapus.

“Efallai bod ein pennau ni wedi cyffwrdd oherwydd ein bod ni mor agos i’n gilydd, ond doeddwn i yn sicr ddim wedi ei daro â fy mhen,” meddai Edwards wrth bapur y Sunday Times.

“Mae Fergus wedi bod yn un o fy ffrindiau gorau yn y garfan ac r’yn ni’n ffrindiau unwaith eto.”

Roedd Shaun Edwards wedi cyfarfod gyda Phrif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Roger Lewis, yn Llundain ddydd Iau diwethaf.

Fe gadarnhaodd Edwards bryd hynny y byddai’n parhau i helpu hyfforddi Cymru tan ar ôl Cwpan y Byd yn Seland Newydd.