Cais drwg-enwog Mike Phillips
Dw i’n un o’r gogs prin rheini sy’n mwynhau rygbi yn fwy na gêm o bêl-droed. Does dim byd gwell na rhediad da neu gôl gampus mewn pêl-droed, ond fel arfer beth gewch chi ydi 89 munud diflas ac ychydig eiliadau o athrylith rywle yn y canol. Y tyndra sy’n gwneud rygbi yn gyffrous i fi – naill ai mae’r chwaraewyr ar un pen o’r cae yn bygwth llinell gais y gwrthwynebwyr neu ar y pen arall yn amddiffyn am eu bywydau. Ar y cae pêl-droed fe allai’r bêl fownsio o gwmpas y cae fel cragen malwen mewn pot jam am hanner y gêm heb unrhyw gyfeiriad i’r chwarae – nes yr eiliad hwnnw o athrylith sy’n penderfynu’r gêm.
Ond un fantais sylweddol sydd gan bêl-droed dros rygbi ydi lle’r dyfarnwr yn y gêm. Ambell dro mewn pêl-droed mae’n rhaid i ddyfarnwr gamu i mewn a gwneud penderfyniad allai newid cwrs y gêm – e.e. rhoi cerdyn coch i chwaraewr neu benderfynu peidio â chaniatáu gôl oherwydd bod rhywun yn camsefyll. Ond anaml iawn mae hynny’n digwydd, ac mae’r penderfyniad fel arfer yn un eithaf du a gwyn.
Mae gan ddyfarnwr lawer mwy o ddylanwad ar gêm rygbi. Does dim dadlau mai ef yw’r person mwyaf pwerus ar y cae. Mae ganddo ef a’i chwiban yr un faint o rym dros ba fath o gêm fydd yn cael ei chwarae ac sydd gan hyfforddwyr y ddau dîm sydd ar y cae.
Mae dylanwad y dyfarnwr o ganlyniad i’r ffaith bod rygbi yn gêm hynod o gymhleth â nifer o reolau sydd ddim yn hysbys i 99% o’r gwylwyr. Mae’r sgrym yn destun pryder amlwg i unrhyw un sy’n ymwneud â byd rygbi – nid yn unig am ei fod o mor araf a diflas i’w wylio. Mae’n amlwg ar adegau nad oes gan y dyfarnwyr syniad beth sy’n mynd ymlaen, ac yn penderfynu bod y naill dim neu’r llall wedi troseddu ar hap bron a bod. Roedd esiampl dda o hyn yn gêm Ffrainc yn erbyn yr Eidal pan enillodd yr Eidalwyr gic gosb pum metr o’u llinell gais eu hunain yn erbyn pac oedd wedi rheoli’r gêm cyn hynny. Pe na bai’r dyfarnwr wedi chwythu ei chwiban, mae’n debygol na fyddai buddugoliaeth enwocaf yr Eidal erioed wedi digwydd.
Canlyniad yr amwyster yma o ran dyfarnu ydi bod gan chwaraewyr rygbi berthynas gwahanol gyda thwyllo o’i gymharu â chwaraewyr pêl-droed. Mae esiamplau o chwaraewr pêl-droed yn mynd ati’n fwriadol i dwyllo yn brinnach byth. Yr unig ddau ddihyrun sy’n dod i’r meddwl ydi Thierry Henry a Diego Maradona. O fewn chwarter awr o gêm rygbi mae bron i bawb ar y cae wedi twyllo’r fwriadol. Prif rinwedd Richie McCaw i’r Crysau Duon ydi ei fod yn twyllo yn well na phawb arall.
Ar ôl ennill y gêm yn erbyn Iwerddon gyda chais oedd yn erbyn y rheolau doedd gan hyfforddwr Cymru, Warren Gatland a’r mewnwr Mike Phillips ddim cywilydd. Lwc oedd o iddyn nhw, nid twyllo – roedd penderfyniadau annheg yn mynd yn eu herbyn ac roedd rhai penderfyniadau annheg yn mynd o’u plaid.
Cyfeiriodd Gatland at gerdyn melyn annheg Craig Mitchell yn y gêm gyntaf yn erbyn Lloegr – heb y cerdyn melyn hwnnw fe allai Cymru fod yn mynd am y Gamp Lawn. Mae gan ddyfarnwr y gallu i newid cwrs tymor, gyrfaoedd hyd yn oed, â’i benderfyniadau.
Yr oll oedd cais Mike Phillips oedd esiampl fwy amlwg na’r arfer o’r rhan anferth sydd gan dwyllo, a methiant y dyfarnwr i sylwi ar dwyllo, mewn rygbi. Yr amwyster hwnnw yw rhan o’r rheswm dyw’r gamp ddim yn denu’r un diddordeb a phêl-droed. Os ydi’r gamp am dyfu yn un byd-eang, bydd rhaid gwneud y rheolau’n fwy dealladwy, a’r gwahaniaeth rhwng twyllo a chwarae’n deg yn fwy du a gwyn – yn enwedig i’r hyfforddwyr ar y cae.